Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd
san steffan

Fe fydd Etholiad Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig ar 12 Rhagfyr, 2019.

Daeth y cynnig byr gerbron Tŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth wedi i'r llywodraeth golli mewn ymgais i alw etholiad drwy'r Ddeddf Senedd Tymor Sefydlog nos Lun.

Er fod y gwrthbleidiau wedi gwrthwynebu hynny, daeth cynnig arall o flaen ASau fyddai'n caniatáu etholiad cynnar, ac fe benderfynodd rhai o'r gwrthbleidiau gefnogi hynny.

Cafodd y cynnig ei basio o fwyafrif llethol gyda 438 o blaid ac 20 yn erbyn.

Ymatal eu pleidlais wnaeth yr SNP, ond fe bleidleisiodd ASau Plaid Cymru yn erbyn y cynnig.

Mae angen i Dŷ'r Arglwyddi gymeradwyo'r mesur, ond fe allai ddod yn ddeddf cyn diwedd yr wythnos.

Os fydd hynny'n digwydd, dyma fydd yr etholiad cyntaf i gael ei gynnal ym mis Rhagfyr ers 1923.

Fe gafodd nifer o welliannau eu cynnig, gan gynnwys rhoi'r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed, a rhoi'r bleidlais i drigolion gwledydd eraill sy'n byw yn y DU.

Ni chafodd y gwelliannau hynny eu dewis gan y llefarydd John Bercow.

Yr unig welliannau gafodd eu trafod oedd i newid dyddiad yr etholiad o 12 Rhagfyr i 9 Rhagfyr, ac o 12 Rhagfyr i fis Mai y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad,

Glyn Davies yn mynnu bod dim dewis

Cafodd y gwelliannau i symud y bleidlais eu trechu. Fe fydd Etholiad Cyffredinol felly ar ddydd Iau, 12 Rhagfyr 2019.

Dywedodd AS Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies mai "etholiad cyffredinol yw'r unig ffordd i gyflawni Brexit," ac er nad oedd sicrwydd y byddai hynny'n digwydd, roedd "rhai i ni drio gwneud hynny".

Disgrifiad,

'Neb isho etholiad' medd Plaid Cymru

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, nad oedd "unrhyw un dwi'n siarad gyda nhw wrth ymgyrchu isho etholiad arall," a bod Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cynnal un.

Wedi i'r mesur basio yn Nhŷ'r Cyffredin, bydd yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Mercher.

Disgrifiad,

'Llafur yn ffyddiog' medd Nia Griffith

Er eu bod wedi gwrthwynebu cynnal etholiad cyffredinol ar sawl achlysur, dywedodd Nia Griffith AS ar ran Llafur eu bod yn fyddiog o lwyddo yn yr etholiad y tro hwn gan fod gan ei phlaid "bolisïau cryf" ar gyfer yr etholwyr.

Disgrifiad,

Etholiad 'am fwy na Brexit'

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS, fod yr etholiad yn ymwneud â llawer mwy na Brexit yn unig, ac y byddai pleidleiswyr yn troi at ei phlaid hi.