Pam rhoi'r gorau i yfed am 31 diwrnod?
- Cyhoeddwyd
Ym mis Hydref bob blwyddyn, ers ambell i flwyddyn bellach, mae pobl yn cymryd rhan yn 'Sober October' ac yn herio eu hunain i beidio yfed am yr holl fis, er mwyn codi arian i achosion da.
Her hawdd i rai pobl, her ychydig yn anoddach i eraill, efallai.
Un o'r rheiny a benderfynodd gymryd y sialens eleni oedd Iona Joseph o'r Tyllgoed, Caerdydd. Beth ddysgodd hi o'i mis cwbl sobr?
Y cwestiwn cyntaf oedd ar wefusau pawb sy'n fy nabod oedd: pam? Pam rhoi'r gorau i yfed alcohol yn gyfangwbwl am fis cyfan?
Roedd yr ateb yn ddigon syml. Y rheswm pennaf dros wneud oedd i weld os y gallwn i roi'r gorau i yfed alcohol yn gyfangwbwl am fis cyfan.
Fel un sy'n mwynhau gwydraid o win yn rheolaidd gyda swper neu wrth gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau dros y penwythnosau ro'n i eisiau gwybod pa mor gryf oedd gafael alcohol ar fy mywyd.
A oedd gen i'r cryfder i wrthsefyll y temtasiwn a'r arferiad o yfed alcohol bron yn ddyddiol?
Chwilfrydedd, felly, yn fwy na dim arall oedd y rheswm pennaf dros yr her. Ro'n i eisiau gwybod sut yn union y byddai'r mis sych yn effeithio ar fy mywyd, os o gwbl.
31 diwrnod yn ddiweddarach, dwi wedi codi tua £300 i elusen, colli wyth pwys a dod i'r casgliadau yma:
Mae gen i lawer mwy o egni.
Nid yw'n syndod bod hangôfyr yn amsugno'ch egni. Os ydych chi'n yfed gormod (yn enwedig ar ôl i chi droi'n 30) rydych chi'n sarrug ac yn angynhyrchiol am y rhan fwyaf o'r diwrnod canlynol.
Mae buddion boreol sobrwydd yn wych. Mae ansawdd eich cwsg yn well, rydych chi'n deffro gyda phen clir, ac mae eich diwrnod gwaith yn fwy cyffrous.
(Er, os nad ydych chi'n hoff iawn o'ch swydd, mae'n bosib ei bod yn haws fynd trwy'r diwrnod mewn rhyw fath o gyflwr sombïaidd! Wedi dweud hynny, os mai edrych ymlaen at y ddiod ar ôl gwaith yw uchafbwynt eich diwrnod, mae'n bosib nad y ddiod yw'r broblem ond eich dewis o yrfa?!)
Heb effeithiau alcohol megis cur pen neu flinder, mae fy nhrefn foreol yn fwy pleserus o lawer. Mae'n haws cael cychwyn da ar y bore pan fyddwch chi eisiau codi o'r gwely.
Rwy'n dawelach fy meddwl.
Wrth fod yn hollol sobr, rwy'n dawelach lawer fy meddwl ac yn medru rheoli fy emosiynau'n well. Wrth fod yn gwbl sobr drwy'r amser rwy hefyd yn medru myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd a sydd yn digwydd yn haws.
Gan fy mod yn hollol sobr ac yn myfyrio mwy nag arfer, roeddwn yn dawelach ac yn fwy ymwybodol o bob sefyllfa a oedd angen fy ymateb.
Yn lle ymatebion annifyr, teimlwn fy mod yn fwy trefnus yn fy atebion.
Mae tafarnau yn ddiflas.
Pan na fyddwch yn yfed, dydy'r awydd i gymdeithasu mewn tafarnau ddim yn apelio gymaint. Ond eto dydych chi ddim am newid trefn eich bywyd yn gyfan gwbl a dydych chi ddim am ddieithrio oddi wrth eich ffrindiau chwaith.
Roedd hyn yn anodd oherwydd bod y dafarn yn colli ei apêl pan nad ydych chi eisiau 99% o'r hyn sydd ar y fwydlen. Maen nhw hefyd yn colli apêl yn gyflym unwaith y bydd y dorf yn dechrau meddwi ac yn uchel eu cloch!
Fodd bynnag, eich ffrindiau yw'r rheswm eich bod wrth y bar yn y lle cyntaf, nid yr alcohol. Wedi dweud hynny, wnes i deimlo'n lletchwith oherwydd y cytundeb cymdeithasol anysgrifenedig o gael diod o fy mlaen.
Mae yna ddatrysiad gymharol syml i hyn: archebwch goctel di-alcohol neu ddiod 0% os oes ar gael. Sylweddolais cyn lleied o dafarnau sydd yn cynnig hyn yn anffodus. Dydw i ddim yn hoffi lager ond dyna'r unig ddewis mewn nifer o dafarnau. Hynny neu ddiodydd meddal sydd yn anodd yfed mwy na dau neu dri ohonynt.
Rwy'n 'nabod fy hunan yn well.
Ar y cyfan, roedd yr her yn un ddiddorol. Bellach mae gen i well adnabyddiaeth o fy hunan.
Yr elfen bwysicaf i mi yw fy mod bellach yn gwybod nad ydw i'n ddibynnol ar ddiod. Dwi wedi llwyddo i fyw'r 31 diwrnod diwethaf heb alcohol yn ddigon hawdd mewn gwirionedd. Wel, efallai ddim yn hawdd, ond yn bell o fod yn anodd.
Ni fuodd yna'r un adeg lle fues i mor awyddus i orffen yr her fel y bu raid i mi wahardd alcohol o'r tŷ neu beidio bod o gwmpas eraill a oedd yn yfed alcohol. Dwi bellach yn medru rhoi'r gorau i boeni os ydw i'n araf ildio i ryw glefyd cythraul nad oes gen i.
Dydw i ddim am wrthod yfed alcohol weddill fy mywyd oherwydd fy mod i'n hoffi cymdeithasu gyda gwydraid o win a ffrindiau.
Ond wnaeth i mi sylweddoli bod deffro'n gynnar heb effeithiau sgil alcohol a bod yn fwy cynhyrchiol yn fy ngwneud i'n hapus hefyd. Yn fy marn i, y llwyddiant yw ceisio cydbwyso'r ddau.
A dyna ni ddiwedd yr her.
Ydw i'n ysu am gael blasu'r gwin coch hyfryd 'na sydd gen i yn gegin? Efallai. Ond dwi'n siŵr fydd un gwydraid bach yn fwy na digon.
Hefyd o ddiddordeb: