Ymgeisydd Ceidwadol yn ymddiheuro am hen sylw Facebook
- Cyhoeddwyd
Mae ymgeisydd Seneddol Ceidwadol wedi ymddiheuro am ddweud mewn hen negeseuon ar wefannau cymdeithasol y dylid "difa" unigolion wnaeth ymddangos yn y rhaglen deledu Benefits Street.
Cyhoeddodd Francesca O'Brien - sy'n ymgeisydd yn etholaeth Gŵyr - y sylwadau ar Facebook ar ôl gwylio'r gyfres ddogfen ar Channel 4 yn 2014.
Mewn datganiad, dywedodd Ms O'Brien bod y sylwadau "wedi eu gwneud yn fyrfyfyr" ond bod hi'n derbyn bod ei "defnydd o iaith yn annerbyniol".
Cafodd y swyddog comisiynu Cadetiaid Awyr yr Awyrlu ei dewis yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd Gŵyr ym mis Hydref wedi proses agored oedd yn rhoi cyfle i drigolion lleol gymryd rhan heb fod yn aelodau o'r blaid.
Ar ôl colli'r sedd i'r Blaid Lafur yn etholiad 2017, mae'n un o brif dargedau'r Ceidwadwyr yng Nghymru y tro hwn.
Roedd Benefits Street yn dilyn hynt a helynt trigolion stryd neilltuol yn Birmingham, ac fe gafodd y rhaglen ffigyrau gwylio da pan gafodd ei darlledu.
Cafodd y rheoleiddiwr Ofcom gannoedd o gwynion bod y rhaglen yn pardduo a chamddehongli unigolion oedd yn hawlio budd-daliadau, ond fe benderfynwyd bod y rhaglen heb dorri rheolau darlledu.
'Fy ngwaed i'n berwi'
Wedi'r bennod gyntaf gael ei darlledu yn Ionawr 2014, ysgrifennodd Ms O'Brien ar Facebook: "Oes yna unrhyw un arall y gwylio hwn?? Waw, mae'r bobl yma yn afreal!!!"
Mewn ymateb i sylw person arall, dywedodd: "Mae fy ngwaed yn berwi, mae angen difa'r bobl yma."
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Ms O'Brien: "Cafodd y sylwadau yma eu gwneud yn fyrfyfyr, nifer o flynyddoedd yn ôl.
"Sut bynnag, rwy'n derbyn bod fy nefnydd o iaith yn annerbyniol a hoffwn ymddiheuro am unrhyw ofid rwyf wedi ei achosi."
Dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Byron Davies, nad yw Ms O'Brien yn destun camau disgyblu gan y blaid.
Ychwanegodd bod y sylwadau yn "annoeth" ond "wedi eu gwneud yn fyrbwyll wrth wylio rhaglen deledu".
Dywedodd nad oedd yn "esgusodi'r peth o gwbl", ond mai ymgais i bardduo oedd hyn gan Blaid Lafur, sydd ag "ymgeisydd yng Ngŵyr sydd ddim eisiau trafod Brexit".
'Pobl Gŵyr yn haeddu gwell'
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod Ms O'Brien wedi "condemnio" ei hun gyda'i sylwadau.
"Mater i'r Blaid Geidwadol yw hi i benderfynu a ydyn nhw'n credu y dylai rhywun â daliadau o'r fath eu cynrychioli mewn etholaeth fel Gŵyr," meddai.
"Dydw i ddim yn gallu dychmygu y bydd pobl yn yr etholaeth barod i ymddiried eu dyfodol i rhywun gyda barn fel yna mewn etholiad."
Dywedodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer yr etholaeth, Sam Bennett bod "pobl fregus Gŵyr yn haeddu cymaint gwell".
"Mae'r math yma o sylwadau yn dangos mai'r Torïaid yw'r blaid gas o hyd. Dylid cael gwared arni fel ymgeisydd," meddai.
"Heb os, diffyg awdurdod moesol Boris Johnson yw'r rheswm nad yw hyn wedi digwydd yn barod."
'Wedi ymddiheuro'
Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Gŵyr, John Davies, yn dweud y bydd yn gwahodd Ms O'Brien i ymuno gydag ef mewn gorymdaith mae wedi'i threfnu i bwyso ar Lywodraeth Cymru i fynnu adolygu Deddf y Crwydriaid y 19eg ganrif.
"Dechreuais redfa gawl reolaidd gan Blaid Cymru dros y digartref yn Abertawe flynyddoedd yn ôl, a chredaf y byddai'n addysgiadol i Ms O'Brien ymuno gyda mi ar nosweithiau Sul i weld sut mae toriadau ar gartrefi cyhoeddus gan y Torïaid wedi effeithio ar bobl go iawn," meddai.
Wrth ymateb i negeseuon Ms O'Brien fore Llun, dywedodd Thérèse Coffey, Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau'r DU: "Mae beth ddywedodd hi'n amlwg yn anghywir.
"Dydw i ddim yn 'nabod Francesca o gwbl. Dwi'n deall bod hi wedi ymddiheuro. Mae hynny'n bwysig.
"Rwy'n cydnabod nad ydw i'n cydymdeimlo gyda'r negeseuon yma mewn unrhyw ffordd."
Wrth ymateb i'r cwestiwn a ddylai Ms O'Brien sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth Gwŷr, dywedodd Ms Coffey: "Credaf fod hynny'n benderfyniad i bobl Gwŷr wneud ynglŷn â phwy hoffan nhw i fod yr aelod seneddol nesaf."