Trigolion Chwilog yn cyflwyno deiseb am lwybr troed

  • Cyhoeddwyd
Chwilog
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl sy'n gwthio pram yn cael eu gorfodi i gerdded ar y ffordd

Mae trigolion pentref yng Ngwynedd wedi cyflwyno deiseb i Gyngor Gwynedd yn galw am gynlluniau i gyflwyno llwybr troed diogel o gyrion pentref Chwilog i lawr am Afonwen yn Eifionydd.

Mae cryn alw wedi bod ar hyd y blynyddoedd am gael llwybr yn sgil y niferoedd sy'n cerdded ar lwybr gwair fel sydd yno ar hyn o bryd, a'r cynnydd mewn cerbydau sy'n teithio ar y ffordd.

Yn ôl y Cynghorydd lleol, Aled Evans: "Ar hyn o bryd mae'r ffordd yn beryglus, gyda llwybr gwelltglas yn unig ar ddarnau ohoni. Does dim posib cerdded ar hyd ochr y lôn efo pram neu feic plentyn - mae'n llawer rhy beryglus."

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymateb drwy ddweud eu bod yn edrych ar opsiynau fel y gellir edrych i dargedu grantiau i geisio gwireddu gwelliant i gerddwyr a beicwyr yn yr ardal yma."

'Peryg'

Mae Dafydd Povey yn cadw siop gigydd yn y pentref a dywedodd fod "pawb o bobl y pentref a phobl oedd yn dod ar eu gwyliau i'r meysydd carafannau yn arwyddo'r ddeiseb."

Ychwanegodd: "Roedd pawb yn sylwi pa mor beryg oedd hi i gerdded o'r pentref lawr i lan y môr.

"Gan fod cymaint o loriau a thraffig mae gofyn cael llwybr er mwyn cerdded i lawr yno," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae "dwy gornel gudd" ar y ffordd sy'n ei gwneud yn beryglus, yn ôl Anwen Jones

Mae Mr Evans, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd wedi trafod y broblem ar sawl achlysur dros y blynyddoedd gydag Adran Drafnidiaeth Cyngor Gwynedd.

"Fel y gwyddom, mae arian yn broblem gynyddol o fewn awdurdodau lleol, ond dwi'n awyddus i sicrhau bod yr ardal yma'n cael ei blaenoriaethu ar gyfer unrhyw arian a ddaw o du Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf," meddai.

'Dwy gornel gudd'

Yn ôl Anwen Jones, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanystumdwy: "Mae cyrraedd y llwybr o bentref Chwilog ar feic neu ar droed yn beryglus ofnadwy, yn enwedig os ydych chi'n gwthio pram.

"Mae'n ffordd brysur gyda dwy gornel gudd arni, rhannau gyda glaswellt wedi gordyfu arni sy'n gorfodi pobl i gerdded neu seiclo ar hyd y ffordd.

"Fel y Cyngor Cymuned sy'n gyfrifol am yr ardal, rydym yn erfyn ar Gyngor Gwynedd i roi sylw brys i'r ardal, er mwyn sicrhau bod iechyd a lles trigolion yr ardal yn cael ei flaenoriaethu," meddai.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith wedi gofyn i swyddogion Adran Amgylchedd y Cyngor i edrych ar opsiynau fel y gellir edrych i dargedu grantiau i geisio gwireddu gwelliant i gerddwyr a beicwyr yn yr ardal yma."