Etholiad Cyffredinol 2019: Sut i bleidleisio a chwestiynau eraill
- Cyhoeddwyd
Etholiad Cyffredinol 2019: Sut i gofrestru i bleidleisio a chwestiynau eraill am yr etholiad.
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?
I bleidleisio mewn etholiad cyffredinol rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn ogystal â bod yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad.
Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon, neu'n ddinesydd y Gymanwlad sy'n bodloni meini prawf penodol i fod yn gymwys. Rhaid i chi fyw yn y DU, neu fod yn ddinesydd Prydeinig dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf.
Mae rhai pobl wedi'u heithrio rhag pleidleisio, gan gynnwys aelodau o Dŷ'r Arglwyddi, carcharorion a gafwyd yn euog, unrhyw un sy'n euog o dwyll etholiadol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf a phobl ag unrhyw "anallu cyfreithiol" sy'n amharu ar eu crebwyll.
Mae'r etholwyr ychydig yn wahanol mewn etholiad cyffredinol nag yn refferendwm Brexit, a oedd yn cynnwys y rhai a gofrestrwyd i bleidleisio yn Gibraltar.
Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio?
Mae'n cymryd tua phum munud i gofrestru ar wefan y llywodraeth, neu gallwch gofrestru drwy'r post. Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol, eich dyddiad geni a'ch cyfeiriad.
Gall myfyrwyr bleidleisio drwy ddefnyddio eu cyfeiriad yn y brifysgol neu gartref. Mae'n gyfreithiol i gael eich cofrestru mewn dau le, ond mae'n drosedd pleidleisio yn y ddau.
Gall pobl sy'n gweithio i ffwrdd neu ar wyliau ar ddiwrnod yr etholiad bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, sy'n golygu enwebu rhywun i fwrw pleidlais ar eich rhan. Rhaid i'ch dirprwy fod yn bleidleisiwr cofrestredig dros 18 oed.
A oes angen fy ngherdyn pleidleisio arna i wrth daro pleidlais?
Ar ôl cofrestru i bleidleisio, bydd eich cyngor yn anfon cerdyn pleidleisio atoch. Mae hynny'n cynnwys manylion eich gorsaf bleidleisio a phryd y gallwch bleidleisio.
Nid oes angen i chi fynd â'r cerdyn pleidleisio hwn gyda chi. Dywedwch eich enw a'ch cyfeiriad wrth y clercod pleidleisio, a byddan nhw'n rhoi eich papur pleidleisio i chi.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, nid oes angen i chi ddod â llun adnabod chwaith, er gwaethaf cynigion diweddar y llywodraeth.
Ond nid yw hynny'n wir yng Ngogledd Iwerddon, lle mae angen dull adnabod.
Pwy sy'n rhedeg y Deyrnas Unedig pan fod etholiad cyffredinol?
Mae'r Senedd yn cael ei diddymu 25 diwrnod gwaith cyn etholiad cyffredinol.
Mae hyn yn golygu y daw pob sedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn wag ac mae Aelodau Seneddol yn rhoi'r gorau i gynrychioli eu hetholaethau. Maen nhw hyd yn oed yn rhoi'r gorau i ddefnyddio AS yn eu henw.
Serch hynny, mae gweinidogion y llywodraeth yn aros yn eu swyddi ac yn gyfrifol am eu hadrannau nes bod llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio.
Mae cyfyngiadau cyn etholiad hefyd yn berthnasol i dros 440,000 o weision sifil sy'n gweithio yn y DU. Maen nhw'n staff sy'n wleidyddol ddiduedd ac yn gweithio i adrannau neu asiantaethau'r llywodraeth.
Yn ystod y cyfnod hwn, nid oes hawl ganddyn nhw wneud unrhyw waith at "ddibenion plaid wleidyddol". Mae hynny'n cynnwys ateb ymholiadau ar bolisïau newydd sy'n cael eu hamlinellu mewn maniffesto, neu roi sylwadau ar gynigion.
Yng Nghymru fe fydd y Cynulliad Cenedlaethol, sydd yn gyfrifol am sawl maes sydd wedi eu datganoli - fel iechyd, addysg, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, priffyrdd, datblygu economaidd a'r iaith Gymraeg - yn parhau gyda'u gwaith fel arfer.
Er hynny bydd sawl AC i'w gweld yn ymuno ag ymgyrchoedd gwleidyddol y gwahanol bleidiau dros y cyfnod hwn hefyd.
Pam defnyddio pensil i bleidleisio?
Yn ôl y Comisiwn Etholiadol mae pensiliau yn cael eu defnyddio fel arfer mewn bythau pleidleisio am resymau ymarferol.
Gallai'r inc o ben ysgrifennu adael marc pan fydd papur pleidleisio wedi'i blygu, neu gallai'r inc redeg neu ollwng.
Ond does dim byd yn y gyfraith sy'n dweud bod yn rhaid i chi ddefnyddio pensil. Os yw pleidleiswyr eisiau, gallan nhw ddefnyddio eu pen ysgrifennu eu hunain.
Yw hi'n anghyfreithlon tynnu lluniau mewn bwth pleidleisio?
Nid oes unrhyw ddeddfau yn erbyn tynnu lluniau mewn bwth pleidleisio ond nid yw'n rhywbeth sy'n cael ei annog. Mae hynny oherwydd bod deddfau i sicrhau bod pleidleisiau'n aros yn gyfrinachol yn gymhleth iawn.
Er enghraifft, mae'n anghyfreithlon datgelu sut mae rhywun arall wedi pleidleisio - a gallai tynnu lluniau dorri'r rheol honno.
Beth sy'n digwydd i'r papurau pleidleisio wedyn?
Ar ôl i'r pleidleisiau gael eu cyfrif a chyhoeddi'r enillwyr, mae'r holl bapurau pleidleisio yn cael eu rhoi mewn bagiau wedi'u selio a'u storio'n ddiogel am flwyddyn.
Rhaid eu cadw ar wahân - a'u didoli fesul papurau sydd wedi'u cyfrif, pleidleisiau post, papurau a wrthodwyd neu rai sydd heb eu defnyddio.
Mae hynny'n cael ei wneud rhag ofn bod canlyniad yr etholiad yn cael ei herio'n gyfreithiol, er enghraifft os oes rhywun o'r farn bod ymgeisydd wedi torri'r gyfraith, neu nad oedd pleidleisiau wedi'u cyfrif yn gywir.
Ar ôl hynny, mae'r cyngor yn gyfrifol am gael gwared ohonyn nhw. Mae rhai yn torri'r papurau'n ddarnau mân a'u hailgylchu, ond does dim rhaid gwneud hynny.
Pwy sy'n trefnu etholiad?
Cyn gynted ag y bydd y Senedd yn cael ei diddymu, mae llawer o waith i'w wneud.
Cyn diwrnod yr etholiad, mae swyddi'n cynnwys dosbarthu papurau enwebu, gwneud yn siŵr bod pleidleisiau post a phleidleisiau dirprwy yn cael eu hanfon a bod pleidleiswyr newydd yn cael eu cofrestru.
Swyddogion canlyniadau yw'r bobl sy'n gyfrifol am hyn. Mae yna un ar gyfer pob etholaeth.
Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddod o hyd i swyddogion llywyddu i oruchwylio pob gorsaf bleidleisio, clercod pleidleisio i staffio'r gorsafoedd a chynorthwywyr cyfrif i gwblhau'r canlyniad.