Gorchymyn gwerthu tŷ oedd â 123 tunnell o sbwriel

  • Cyhoeddwyd
Daeth swyddogion o hyd i gannoedd o fagiau sbwriel ar y safleFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth swyddogion o hyd i gannoedd o fagiau sbwriel yn garej a gardd y tŷ ym Mae Cinmel

Mae dau frawd o Sir Conwy oedd yn defnyddio eu gardd gefn fel safle gwastraff anghyfreithlon wedi cael gorchymyn i werthu eu tŷ.

Yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd Ian a Raymond Murray o Fae Cinmel orchymyn i dalu £72,637 o fewn tri mis neu wynebu 12 mis o garchar.

Clywodd y llys ddydd Mawrth fod Cyngor Conwy wedi gorfod gwario £59,000 i waredu 123 tunnell o sbwriel o'r safle a difa hyd at 500 o lygod mawr.

Fe wnaeth y cyngor dderbyn cwynion gan gymdogion ynghyd â safle gwyliau cyfagos.

Bu'n rhaid i'r safle gwyliau ad-dalu cwsmeriaid oedd wedi gadael oherwydd y llygod.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 500 o lygod mawr mawr ar y safle

Roedd y ddau frawd wedi bod yn gweithredu busnes gwaredu sbwriel heb drwydded.

Bu'r ddau'n cynnal y busnes o ardd cefn eu tŷ yn Sir Conwy - ardal lle mae'r cyngor erbyn hyn yn casglu bagiau du bob pedair wythnos.

Cafodd y ddau ddedfryd o garchar wedi ei gohirio gan Lys y Goron Yr Wyddgrug ar 8 Ionawr, ar ôl pledio'n euog i redeg busnes heb drwydded.

Ar y pryd dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod tystiolaeth eang yn bodoli fod pla o lygod yno o ganlyniad i'r gwastraff.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd eitemau trydanol, gan gynnwys oergelli, eu darganfod yng nghanol y sbwriel

Dywedodd Sara Yates ar ran y difinyddion fod y busnes wedi ei reoli'n gywir ar y dechrau, ond fod y brodyr wedi penderfynu ei fod y costio gormod i fynd a'r sbwriel i safle trwyddedig a'u bod wedi dechrau ei storio yn yr ardd gefn.

Roedd y ddau, meddai, am ymddiheuro i'r gymuned leol.

Fe wnaeth y barnwr Niclas Parry orchymyn y brodyr i roi eu tŷ ar werth am £150,000 ymhen yr wythnos.

Fe fydd Cyngor Conwy, meddai, yn cael iawndal am y "gost syfrdanol" i'r coffrau cyhoeddus o glirio'r llanast a gafodd ei greu o ganlyniad i'r gweithgarwch troseddol.