'Anodd iawn i Alun Cairns arwain ymgyrch y Ceidwadwyr'

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns a Ross England
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd Alun Cairns yr ymgeisydd Cynulliad Ceidwadol, Ross England fel "ffrind a chydweithiwr" yn 2018

Mae aelod blaenllaw o'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai'n "anodd iawn" i Ysgrifennydd Cymru arwain ymgyrch etholiadol y blaid yng Nghymru yn sgil y ffrae dros ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys yn ymwneud â threisio.

Mae'n dilyn galwad gan ddynes gafodd ei threisio ar Alun Cairns i ymddiswyddo wedi i'w gyn-gydweithiwr ddymchwel ei hachos llys yn fwriadol.

Fe wadodd Mr Cairns unrhyw ymwybyddiaeth bod sylwadau Ross England yn Ebrill 2018 wedi achosi cwymp yr achos, ond mae BBC Cymru wedi gweld e-bost at Ysgrifennydd Cymru ym mis Awst 2018 yn crybwyll y mater.

Ar y Post Cyntaf, galwodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar Mr Cairns i ymddiswyddo, gan ddweud fod hi'n "anodd gweld sut y gallai barhau".

Mae Mr Cairns wedi cael cais am sylw.

'Tanseilio un o'n blaenoriaethau etholiadol'

Gyda Boris Johnson yn lansio ymgyrch etholiadol y blaid ddydd Mercher, dywedodd yr aelod blaenllaw o'r blaid yng Nghymru bod yna "ddicter a braw cynyddol" ymhlith ymgeiswyr Seneddol y blaid ynghylch ymwybyddiaeth Mr Cairns o gwymp yr achos llys.

Ychwanegodd y ffynhonnell: "Mae'n anodd gweld sut gall Alun Cairns arwain yr ymgyrch yng Nghymru heb esbonio amgylchiadau'r achos yma yn llawn."

Dywedodd ffynhonnell arall: "Ein tair blaenoriaeth yn yr ymgyrch genedlaethol heblaw am Brexit yw cyfraith a threfn, y GIG ac ysgolion. Mae o'n tanseilio un o'r rheiny.

"Mae ganddon ni big-hitter amlwg wrth gefn ym Mro Morgannwg, ddim yn siŵr pam nad ydy Alun yn gwneud ffafr â'r blaid a chamu'n ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ross England yn arfer gweithio yn swyddfa Alun Cairns

Dywedodd barnwr fod Ross England wedi dymchwel achos llys - lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf - yn fwriadol yn Ebrill 2018, trwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.

Mae Mr England yn mynnu ei fod wedi "rhoi ateb gonest", ond mae'r fenyw a gafodd ei threisio - sydd wedi galw am ymddiswyddiad Mr Cairns - yn gwadu ei honiadau.

Cafwyd y diffynnydd, James Hackett, yn euog mewn achos llys newydd.

Cafodd Mr England ei ddewis ym mis Rhagfyr 2018 fel ymgeisydd i'r Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg ar gyfer yr etholiad Cynulliad nesaf.

Pan ddaeth manylion yr achos llys i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf, cafodd ei wahardd fel ymgeisydd ac fel aelod o staff y Blaid Geidwadol, ac mae'r blaid am gynnal "ymchwiliad llawn".

Ar 31 Hydref, dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr Arglwydd Byron Davies, bod y blaid ond wedi dod i wybod am holl fanylion yr achos pan ddaeth proses apêl y diffynnydd i ben.

Mewn ail ddatganiad yr un diwrnod, dywedodd y gallai "ddatgan yn ddiamod" bod ef a Mr Cairns "yn hollol anymwybodol o fanylion cwymp yr achos hwn nes iddyn nhw ddod i sylw'r cyhoedd yr wythnos hon".

Dywedodd Mr Cairns hefyd mai "cryn amser yn ddiweddarach" y daeth i wybod am gwymp yr achos, a'i fod ond wedi dod i wybod am ran benodol Mr England pan dorodd y stori yr wythnos ddiwethaf.

Ond mae BBC Cymru wedi gweld e-bost gafodd ei ei anfon at Mr Cairns ar 2 Awst, 2018 gan Geraint Evans - ei ymgynghorydd arbennig.

Mae'n dweud: "Rwyf wedi siarad gyda Ross ac mae'n hyderus na fydd y llys yn cymryd camau pellach."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Does dim gwybodaeth ychwanegol o'r ddogfen hon yn cadarnhau sgwrs anffurfiol wnaeth ddigwydd amser sylweddol ar ôl i'r achos ddymchwel ac sy'n cyd-fynd â datganiadau a wnaed."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Saville Roberts wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn galw am ddiswyddo Alun Cairns

Mae'r dioddefwr, oedd yn arfer gweithio yn swyddfa etholaethol Alun Cairns, wedi galw arno i ymddiswyddo.

"Yn sicr, pe byddai wedi condemnio Ross [England] yn y lle cyntaf, fyddai e ddim yn y sefyllfa yma.

"Byddwn i'n hoffi ymddiheuriad gan y blaid ac Alun Cairns am ei ddewis ef yn y lle cyntaf. Alla i ddim credu bod yr un Ceidwadwr Cymreig blaenllaw wedi dweud bod yr hyn wnaeth e'n anghywir."

Angen ymchwil trwyadl

Wrth siarad ar BBC Radio Wales bore 'ma fe wrthododd yr ymgeisydd seneddol Ceidwadol dros Fynwy, David Davies, awgrym y dylai Mr Cairns ymddiswyddo.

Ond roedd yn cydnabod bod hi'n briodol i wahardd Mr England.

Dywedodd Mr Davies:" Dwi ddim yn gwybod dim mwy o'r manylion nag unrhyw un arall, ond dwi yn credu ei bod hi'n hollol gywir i wahardd Mr England, a beth bynnag a ddigwyddodd yn y llys, dwi ddim yn gwybod - mewn gwirionedd a yw unrhyw un wedi gweld y transcript? Dwi heb wneud, a dwi ddim yn gwybod y manylion."

"Ond mae angen ymchwilio'n drwyadl i'r peth, yn bendant, ac os oedd e'n gyfrifol am gwymp achos llys yn ymwneud â threisio, yna nid yw'n berson addas i fod yn ymgeisydd."

Ychwanegodd bod angen cofio a pharchu'r dioddefwr "trosedd rhyw erchyll" sy'n ganolbwynt i'r sefyllfa a bod yr holl drafod a dadlau "trwy'r cyfryngau [ddim] y ffordd orau o wneud hyn".

'Dangoswch arweiniad'

Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Boris Johnson yn galw arno i ddiswyddo Mr Cairns o'i gabinet ac fel ymgeisydd.

Yn ei llythyr mae'n dweud: "Ar y gorau mae Mr Cairns wedi dangos anallu dybryd a dangos nad yw'n ffit i fod mewn swydd gyhoeddus.

"Mae'n warthus nad yw Mr Cairns wedi ymddiswyddo ar ôl i'r holl fanylion ddod i'r amlwg.

"Mae'r dioddefwr, sy'n gyn-aelod o staff y Blaid Geidwadol, wedi galw am ymddiswyddiad Mr Cairns.

"Os na wnewch chi wrando arna i, gwrandewch arni hi. Dangoswch ychydig o arweiniad ar y mater difrifol yma."

Mae'r prif weinidog wedi cael cais am sylw.