Ffrae Ross England: Dioddefwr treisio am i Alun Cairns ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae menyw gafodd ei threisio wedi galw ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns i ymddiswyddo wedi i gyn-gydweithiwr ddymchwel achos llys yn fwriadol.
Dywedodd barnwr fod Ross England wedi dymchwel achos llys, lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf, yn fwriadol yn Ebrill 2018, trwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.
Roedd Alun Cairns yn gwadu ei fod yn gwybod am hyn, ond mae BBC Cymru wedi gweld e-bost gafodd ei anfon ato ym mis Awst 2018 yn sôn am y mater.
Cafodd Mr England ei ddewis ym mis Rhagfyr 2018 fel ymgeisydd i'r Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg ar gyfer yr etholiad Cynulliad nesaf.
Mae Mr Cairns wedi cael cais am sylw.
'Byddwn i'n hoffi ymddiheuriad'
Pan ofynnwyd i'r dioddefwr yn yr achos a ddylai Mr Cairns ymddiswyddo, dywedodd wrth BBC Cymru: "Yn sicr, pe byddai wedi condemnio Ross [England] yn y lle cyntaf, fyddai e ddim yn y sefyllfa yma.
"Byddwn i'n hoffi ymddiheuriad gan y blaid ac Alun Cairns am ei ddewis ef yn y lle cyntaf. Alla i ddim credu bod yr un Ceidwadwr Cymreig blaenllaw wedi dweud bod yr hyn wnaeth e'n anghywir."
Cafodd e-bost ei anfon at Mr Cairns ar 2 Awst, 2018 gan Geraint Evans - ei ymgynghorydd arbennig, Richard Minshull - cyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig, ac aelod arall o staff.
Mae'n dweud: "Rwyf wedi siarad gyda Ross ac mae'n hyderus na fydd y llys yn cymryd camau pellach."
Pan gafodd Mr England ei ddewis fel ymgeisydd Bro Morgannwg yn ddiweddarach yn 2018, fe wnaeth Mr Cairns ei ddisgrifio fel "ffrind a chydweithiwr... y byddai'n bleser ymgyrchu drosto".
Mae ffynhonnell o'r Blaid Geidwadol wedi dweud wrth y BBC: "Galla' i ddim gweld sut mae'n bosib iddo [Mr Cairns] barhau - gallai natur wenwynig yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg danseilio holl ymgyrch y Ceidwadwyr yng Nghymru.
"Petai ganddo barch byddai'n rhoi'r blaid a'r wlad yn gyntaf ac ymddiswyddo."
Cafodd Mr England ei wahardd fel ymgeisydd ac aelod o staff yr wythnos ddiwethaf, wrth i'r blaid ddatgan bwriad i gynnal "ymchwiliad llawn".
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Does dim gwybodaeth ychwanegol o'r ddogfen hon yn cadarnhau sgwrs anffurfiol wnaeth ddigwydd amser sylweddol ar ôl i'r achos ddymchwel ac sy'n cyd-fynd â datganiadau a wnaed."
Beth ddigwyddodd yn yr achos llys?
Yn ystod yr achos yn erbyn James Hackett, cyfaill i Mr England, dywedodd Mr England ei fod wedi cael perthynas rhywiol achlysurol gyda'r achwynydd - rhywbeth y mae hi'n gwadu - er i'r barnwr egluro na ddylid sôn am hanes rhywiol y dioddefwr mewn tystiolaeth.
Dywedodd y Barnwr Stephen Hopkins QC wrth Mr England: "Rydych wedi llwyddo ar eich pen eich hun, a does gen i ddim amheuaeth ei fod yn fwriadol, i ddymchwel yr achos yma. Ewch allan o fy llys."
Dywedodd Mr England ei fod "wedi rhoi ateb gonest" yn yr achos. Fe gafwyd Hackett yn euog mewn ail achos.
Yn y cyntaf o ddau ddatganiad ar 31 Hydref, dywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr Arglwydd Byron Davies, bod y blaid ond wedi dod i wybod am holl fanylion yr achos pan ddaeth proses apêl y diffynnydd i ben.
Dywedodd: "Roeddem yn llwyr ymwybodol bod Ross England yn dyst mewn achos sensitif. Rydym hefyd yn ymwybodol am ein cyfrifoldeb fel cyflogwyr.
"Ers diwedd achos y Llys Apêl, rydym nawr wedi dod yn ymwybodol o holl fanylion yr achos."
Yn yr ail ddatganiad, dywedodd y gallai "ddatgan yn ddiamod" bod ef a Mr Cairns "yn hollol anymwybodol o fanylion cwymp yr achos hwn nes iddyn nhw ddod i sylw'r cyhoedd yr wythnos hon".
Dywedodd Mr Cairns hefyd mai "cryn amser yn ddiweddarach" y daeth i wybod am gwymp yr achos, a'i fod ond wedi dod i wybod am ran benodol Mr England pan dorodd y stori yr wythnos ddiwethaf.
Mae aelod arall o'r Blaid Geidwadol wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi ffonio pencadlys y blaid yng Nghaerdydd y diwrnod y cwympodd yr achos i roi gwybod i reolwyr bod hynny wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd Mr England.
Ar ôl gorfod dod â'r achos i ben, dywedodd y barnwr wrth Mr England y byddai'n "ysgrifennu llythyrau personol at bobl sy'n agos atoch yn wleidyddol a gobeithio y byddan nhw'n cymryd camau priodol".
Ddydd Mawrth, fe wnaeth y gwrthbleidiau yng Nghymru alw am ymddiswyddiad Mr Cairns.
Dywedodd Christina Rees, llefarydd Llafur ar Gymru: "Mae'r penderfyniad [i ddewis Mr Engalnd fel ymgeisydd] yn gamfarn - mae cuddio'r peth yn anfaddeuol. Dylai Alun Cairns fynd; fel Ysgrifennydd Gwladol ac fel ymgeisydd."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts bod yr achos yn "dangos nad yw Mr Cairns yn ffit i fod mewn swydd gyhoeddus".
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Mr Cairns, Mr Evans a'r Arglwydd Davies am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019