Teulu'n galw am ddechrau ymchwiliad diswyddiad Sargeant
- Cyhoeddwyd
Mae teulu cyn-weinidog Llywodraeth Cymru a laddodd ei hun ar ôl cael ei ddiswyddo union ddwy flynedd yn ôl yn galw am ddechrau ymchwiliad "ystyrlon" i'r achos.
Cafwyd hyd i gorff Carl Sargeant yn ei gartref ddyddiau ar ôl gorfod gadael y cabinet yn sgil honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod - honiadau yr oedd yn eu gwadu.
Dywed ei deulu mewn datganiad bod y llywodraeth Lafur heb gadw addewid i "fod yn dryloyw ynghylch yr amgylchiadau a arweiniodd at ei farwolaeth".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Iau bod y Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi addo trafod y camau nesaf yr ymchwiliad gyda theulu Mr Sargeant.
Y Prif Weinidog blaenorol, Carwyn Jones, wnaeth gomisiynu ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r diswyddiad dan arweiniad Paul Bowen QC.
Fe ofynnodd Mr Drakeford i gyfreithiwr profiadol lunio rheolau newydd ar gyfer yr ymchwiliad ym mis Ebrill, wedi i'r Uchel Lys ddyfarnu ym mis Mawrth bod Mr Jones wedi gweithredu'n anghyfreithlon wrth ddynodi'r cylch gorchwyl.
'Ffydd yn y cadeirydd, ond nid y cylch gorchwyl'
Mewn datganiad, dywedodd y teulu Sargeant: "Mae hi bron yn 2020 a does dim ymchwiliad wedi bod i'r ffordd yr aethpwyd ati i ddiswyddo Carl.
"A thra bod gyda ni ffydd yng nghadeirydd yr ymchwiliad, Paul Bowen, does gyda ni ddim ffydd yn ei gylch gorchwyl.
"Bedwar diwrnod yn unig wedi marwolaeth Carl, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y bydden nhw'n dryloyw ynghylch yr amgylchiadau a arweiniodd at ei farwolaeth."
"Fe wnaethom ni ymddiried ynddyn nhw, ond maen nhw wedi ein siomi."
Wrth ddyfarnu ar ddiwedd y cwest ym mis Gorffennaf bod y cyn-weinidog cymunedau wedi lladd ei hun, fe alwodd y crwner, John Gittins am fwy o gefnogaeth i weinidogion sy'n cael eu diswyddo.
Mae cyfreithiwr y teulu, Neil Hudgell yn ceisio sicrhau i'r teulu gael eu cynrychioli'n gyfreithiol yn yr ymchwiliad, a'r hawl i fargyfreithiwr groesholi tystion ar eu rhan.
Hefyd mae eisiau i'r ymchwiliad allu gorfodi tystion i fod yn bresennol, gan ddadlau y byddai'r broses, fel arall, ddim yn mynd yn ddigon pell ac yn gyfystyr â "gwyngalchu".
"Rwy'n erfyn ar y prif weinidog i nodi [dwy flynedd ers] marwolaeth Carl trwy godi gohiriad yr ymchwiliad fel bod modd dechrau archwiliad ystyrlon," meddai Mr Hudgell.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel y dywedodd y prif weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, mae Carl Sargeant a'r teulu Sargeant yn parhau yn ein meddyliau wedi ei farwolaeth gynamserol ddwy flynedd yn ôl.
"Yn dilyn canlyniad y cwest, dywedodd y prif weinidog y byddai'n siarad gyda'r teulu i gael eu barn ynghylch camau nesaf y broses ymchwilio.
"Byddai'n amhriodol, o'r herwydd, i wneud sylw pellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019