Cairns yn gwrthod ateb cwestiynau am achos Ross England

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mam (chwith) a gwraig (dde) Alun Cairns yn bresennol wrth iddo wynebu'r wasg ddydd Gwener

Mae Alun Cairns wedi gwrthod ateb cwestiynau ynghylch pryd y daeth i wybod am ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys, wrth siarad am y tro cyntaf ers i'r ffrae godi.

Fe ymddiswyddodd Mr Cairns fel Ysgrifennydd Cymru ddydd Mercher, ond dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn "benderfynol o glirio'i enw".

Roedd cyn-weithiwr iddo, Ross England, wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd Cynulliad wyth mis ar ôl i'r achos llys gael ei ddymchwel.

Mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Mr Cairns i gamu o'r neilltu fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mro Morgannwg yn yr etholiad cyffredinol.

Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wedi dweud fod Mr Cairns yn "ymgeisydd gwych" i Fro Morgannwg.

'Edrych ar y ffeithiau'

Wrth roi tystiolaeth i'r achos ym mis Ebrill 2018, fe wnaeth Mr England wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr - honiadau gafodd ei gwadu ganddi hi.

Yn dilyn hynny fe wnaeth y barnwr yn yr achos ei gyhuddo o ddymchwel yr achos.

Roedd Mr Cairns wedi gwadu ei fod yn gwybod am ran Mr England yn nymchwel yr achos tan yn ddiweddar.

Ond fe ymddiswyddodd ar ôl i BBC Cymru weld e-bost gafodd ei anfon at Mr Cairns ac eraill yn crybwyll y mater.

Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd Alun Cairns yr ymgeisydd Cynulliad Ceidwadol, Ross England fel "ffrind a chydweithiwr" yn 2018

Pan ofynnwyd iddo egluro'r gwahaniaeth rhwng y datganiadau, dywedodd Mr Cairns: "Mae hyn yn sefyllfa sensitif tu hwnt, a dwi wedi trin y peth o ddifrif drwy gydol.

"Mae'r blaid wedi gwneud datganiad yn mynegi cydymdeimlad â'r dioddefwr. Rydw i'n cefnogi hynny'n llwyr, yn ogystal â gwaharddiad Ross England fel ymgeisydd.

"Mae'n bwysig sylweddoli nad oedd gen i unrhyw beth o gwbl i'w wneud â'r achos llys, a dwi wedi camu o'r neilltu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru er mwyn rhoi cyfle i swyddfa'r cabinet edrych ar y ffeithiau i gyd fel bod modd iddyn nhw ddod i gasgliad a dyfarniad.

"Rydw i'n awyddus i fwrw 'mlaen wrth ymgyrchu yn yr etholiad cyffredinol. Bydd pobl yn barnu'r holl ffeithiau yn hytrach na phrawf drwy'r cyfryngau."

Yn siarad o Lannau Dyfrdwy ddydd Gwener, dywedodd Boris Johnson fod Mr Cairns yn iawn i ymddiswyddo o'r cabinet, ond ei fod yn "ymgeisydd gwych" i'r blaid ym Mro Morgannwg.

Dywedodd Mr Johnson: "Mae Alun wedi ymddiswyddo o'r cabinet, sydd yn addas wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

"Mae'n iawn iddo sefyll. Mae'n ymgeisydd gwych... ac mi fyddwn ni'n ei gefnogi'r holl ffordd."

Beth oedd yr achos llys?

Roedd Mr Cairns - sydd wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ers Mawrth 2016 - yn wynebu pwysau cynyddol i ymddiswyddo yn dilyn helynt achos llys yn ymwneud â Mr England.

Dywedodd barnwr fod Mr England wedi dymchwel achos, lle'r oedd cyfaill yn sefyll ei brawf, yn fwriadol yn Ebrill 2018, drwy wneud honiadau ynghylch hanes rhywiol y dioddefwr.

Roedd Mr Cairns yn gwadu ei fod yn gwybod am hyn.

Ond fe welodd BBC Cymru e-bost gafodd ei anfon ato ym mis Awst 2018 yn sôn am y mater.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Rhagfyr 2018, cafodd Mr England ei ddewis fel ymgeisydd i'r Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg ar gyfer yr etholiad Cynulliad nesaf.

Roedd Mr England yn arfer gweithio yn swyddfa etholaeth Mr Cairns ac roedd yn ymgeisydd y Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg ar gyfer etholiad y Cynulliad 2021.

Cafodd ei wahardd gan y blaid yr wythnos ddiwethaf yn sgil yr honiadau am ei ymwneud â'r achos llys.

Roedd Mr Cairns eisoes wedi dweud nad oedd wedi derbyn unrhyw ohebiaeth ynglŷn â'r achos llys a'i fod wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn ystyried fod Mr England yn "ffrind a chydweithiwr" ac y byddai'n "bleser i ymgyrchu gydag ef".