Y Blaid Geidwadol yn gwadu gwybod am fanylion achos treisio

  • Cyhoeddwyd
Ross England yn Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ross England wedi gweithio yn swyddfa Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns

Mae dau aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol wedi gwadu eu bod yn ymwybodol o ymwneud Ross England mewn dymchwel achos treisio cyn iddo gael ei ddewis fel ymgeisydd Cynulliad.

Cafodd Mr England ei gyhuddo gan farnwr o ddymchwel yr achos llys yn fwriadol yn Ebrill 2018 drwy wneud sylwadau am hanes rhywiol y dioddefwr - honiadau mae'r achwynydd yn eu gwadu.

Fe gafodd y diffynnydd, James Hackett ei ganfod yn euog yn dilyn achos arall.

Mae ffynhonnell wedi dweud wrth BBC Cymru fod y Blaid Geidwadol yn ymwybodol o'i ymwneud.

Ond mae cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwadu ei fod ef ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn ymwybodol.

Yn ôl y blaid Geidwadol, fe ddaethon nhw'n ymwybodol o "ystod llawn y gweithrediadau yn yr achos" dim ond pan ddaeth y broses apêl i ben yn gynharach y mis hwn.

Cafodd Mr England, oedd yn arfer gweithio i Mr Cairns, ei ddewis yn Rhagfyr 2018 gan y blaid i sefyll ym Mro Morgannwg ar gyfer Etholiad y Cynulliad yn 2021.

Mae wedi dweud ei fod wedi ymddwyn yn onest ac nad oedd yn ymwybodol fod unrhyw dystiolaeth yn annerbyniol.

'Wyt ti'n hollol dwp?'

Mae Mr Cairns yn dweud nad oedd yn ymwybodol o'r amgylchiadau ynglŷn â'r achos yn cael ei ddymchwel tan yr wythnos yma.

Mae'r Ceidwadwyr wedi gwahardd Mr England fel ymgeisydd ac fel gweithiwr cyflogedig, ac fe fydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.

Mae ffynhonnell o'r blaid Geidwadol wedi dweud wrth BBC Cymru ddydd Iau eu bod wedi gwneud galwad ffôn i bencadlys y blaid yng Nghaerdydd ar y diwrnod pan wnaeth yr achos ddymchwel er mwyn rhoi gwybod i'r rheolwyr fod ymwneud Mr England wedi arwain at ddymchwel yr achos.

Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Iau, dywedodd Alun Cairns ei fod ond wedi dod i wybod am ddymchwel yr achos "cryn amser yn ddiweddarach ac nad oedd ganddo unrhyw syniad am rôl Ross England."

Roedd Mr England yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn erbyn ei ffrind pan ddywedodd ei fod wedi cael perthynas rywiol achlysurol gyda'r achwynydd.

Fe wnaeth y Barnwr, Stephen Hopkins QC atal yr achos yn syth a gofyn i Mr England: "Pam wnaethoch chi ddweud hynny? Ydych chi'n hollol dwp?"

Ychwanegodd: "Rydych newydd, yn fwriadol ac ar ben eich hun, danseilio'r achos yma... Ewch allan o fy llys."

Llythyr

Fe wnaeth y barnwr hefyd gadarnhau y byddai'n ysgrifennu at gyfeillion gwleidyddol Mr England gan obeithio y buasent nhw'n cymryd "camau priodol".

Mae ffynhonnell arall wedi dweud wrth BBC Cymru: "Fe wnaeth Richard Minshull (Cyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig) dderbyn llythyr tua'r amser yma ynglŷn â Ross, gan mai nhw oedd yn ei gyflogi.

"Os oedd y llythyr yma gan y barnwr neu beidio, dwi'm yn siŵr, ond roedd yn bendant yn siarad gydag Alun [Cairns] a Byron [Yr Arglwydd Davies, Cadeirydd Ceidwadwyr Cymreig] yn aml ynglŷn â 'beth i wneud gyda Ross."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ffynhonnell, roedd pobl ym mhencadlys y Ceidwadwyr yn ymwybodol o'r achos llys, gan gynnwys Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Yr Arglwydd Byron Davies

Mae'r dioddefwr wedi dweud wrth BBC Cymru fod "pobl ym mhencadlys y Ceidwadwyr yn gwybod... Rwy'n gwybod fod Alun Cairns yn gwybod ynglyn â beth ddigwyddodd yn y llys y noson honno.

"Iddyn nhw ei wneud yn ymgeisydd yn eu sedd darged ar gyfer Cynulliad Cymru, mae'n dangos i mi cyn lleied o barch sydd ganddyn nhw tuag ataf fi a chyn lleied sydd ganddyn nhw am y drefn gyfiawnder."

Fe gafodd Mr England ei wahardd gan y blaid ddydd Mercher hyd nes y daw penderfyniad yn dilyn ymchwiliad gan y pwyllgor ymgeiswyr.

Ar ôl gweithio i Mr Cairns, roedd Ross England yn cael ei gyflogi gan y blaid Geidwadol yn ne Cymru pan wnaeth yr achos llys ddymchwel.

Mae Mr Cairns wedi dweud yn y gorffennol fod Mr England yn "ffrind a chydweithiwr" ac y byddai'n "bleser i ymgyrchu gydag ef".

Ddydd Iau dywedodd ei fod ond wedi dod i wybod am ddymchwel yr achos "cryn amser yn ddiweddarach" ac nad oedd ganddo unrhyw "syniad am rôl Ross England".

Dau ddatganiad

Dywedodd Arglwydd Davies o'r Gŵyr mewn datganiad brynhawn Iau: "Roedden ni'n ymwybodol fod Ross England yn dyst mewn achos sensitif. Roedden ni hefyd yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb sydd gennym fel cyflogwyr.

"Ers diwedd yr achos yn y Llys Apêl, rydym wedi cael ein hysbysu o ystod llawn y gweithrediadau. Nid yw'r blaid wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan y barnwr.

"Mae Ross England wedi cael ei wahardd fel ymgeisydd ac fel gweithiwr cyflogedig ac fe fydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal."

Yn ddiweddarach fe gyhoeddodd ddatganiad arall oedd yn ychwanegu: "Nid yw'r dyfalu parhaus gan ffynhonnell anhysbys sydd yn y cyfryngau ar hyn o bryd, ynglŷn â beth yr oedd swyddogion y blaid a'i chynrychiolwyr etholedig, yn help.

"Gallaf ddweud yn bendant nad oeddwn i nac Alun Cairns yn gwybod unrhyw beth am fanylion dymchwel yr achos tan iddyn nhw ddod yn gyhoeddus yr wythnos hon.

"Hefyd nid oes unrhyw ohebiaeth wedi cael ei dderbyn gan unrhyw swyddog o'r blaid mewn perthynas â'r mater hwn. Pan ddaeth i fy sylw, fe wnaethon ni weithredu ar unwaith."