'Ddim yn prowd o fod yn Almaenes adeg cwymp Wal Berlin'
- Cyhoeddwyd
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a fagwyd yn nwyrain Yr Almaen, wedi dweud ei bod hi bellach yn fwy balch o fod yn Almaenes nag yr oedd hi - union 30 mlynedd ers dymchwel Wal Berlin.
Dywedodd Marion Lõffler nad oedd hi'n falch o fod yn Almaenes adeg cwymp y wal am ei bod yn teimlo bod "Gorllewin Yr Almaen wedi trefedigaethu fy ngwlad fy hun".
Mewn rhaglen fydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru ddydd Sul, dywedodd: "Proses o drefedigaethu ddigwyddodd yn 1989 - erbyn hyn dwi'n teimlo'n fwy prowd o'r Almaen - wrth iddi beidio bod yn rhan o ryfel Irac ac wrth iddi dderbyn miloedd ar filoedd o ffoaduriaid."
Wrth gael ei holi gan gyflwynydd y rhaglen, Vaughan Roderick, am ei bywyd cynnar y tu hwnt i'r wal, dywed Marion ei fod yn llawer gwell na'r darlun traddodiadol sy'n cael ei gyfleu.
"Dwi'n hiraethu am ddyddiau plentyndod yr un peth â phawb arall," meddai.
"I mi roedd y system addysg yn y dwyrain yn dda a'r system iechyd yn dda - doedd yna ddim rhestrau aros.
"Roeddwn i'n ffodus fod fy nhad wedi dweud wrthai am wrando ar newyddion y dwyrain a newyddion Gorllewin Yr Almaen er mwyn i fi gael darlun llawn.
"Rwy'n cofio y ddau wasanaeth newyddion yn adrodd ar y cynhaeaf yn Rwsia - yr un oedd lluniau'r ddau ond roedd y naill wasanaeth yn ei ddisgrifio fel cynhaeaf llewyrchus a'r llall fel un llwm.
"I mi yn blentyn doedden ni ddim yn cael yr un dillad na'r un sebon â'r gorllewinwyr er bod y dwyrain yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y gorllewin.
"Roeddwn i'n eitha' ffodus, er hynny, bod fy modryb Ingrid yn cadw siop flodau ar y ffin ac yn gyfnewid am flodau gan y milwyr roedd hi weithiau yn cael bwyd fel tuniau pinafal ac yn ei roi i ni - doedd 'na ddim bwydydd felly yn y dwyrain."
'Goleuadau neon yn fy ngwneud i'n sâl'
Fe ddigwyddodd cwymp y wal yn sydyn ar 9 Tachwedd, 1989.
"Roeddwn i mewn caffi pan glywes i, a dyma ni y noson honno yn llwyddo i groesi," meddai Marion.
"Roedd yna dorf o bobl o gwmpas, pawb yn cofleidio ei gilydd a'r alcohol yn llifo.
"Mi wnaeth yr hysbysebion a'r goleuadau neon oedd yn newydd i fi fy ngwneud i'n wirioneddol sâl - roedd yn rhaid i fi fynd i le tywyllach er mwyn stopio panico.
"Y noson honno roedd pawb yn byw i'r foment - ond pan ddeffrais i bore wedyn roedd gen i ben tost llythrennol a gwleidyddol - roedd y mudiad diwygio wedi marw.
"Yn fuan wedyn roedd y trabbis yn ciwio mewn tagfeydd anferth i fynd i'r gorllewin - roedd pawb a oedd yn mynd draw yn cael arian i brynu nwyddau gorllewinol… ond roedd yna ddiweithdra uchel yn y dwyrain yn y 1990au."
Mae Sabine Asmus, sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Leipzig, ac sydd hefyd o'r dwyrain yn dweud bod Tachwedd 1989 iddi hi yn gyffrous ac yn llanast.
Dywedodd: "I ddweud y gwir, mae'r gwahaniaethau yn parhau - mae cyflogau y dwyrain yn is ac ry'n yn gweithio oriau hwy na phobl y gorllewin.
"Yn aml mae ein cymwysterau ni'n uwch - does yna ddim cyfartalwch."
'Nid ein heiddo ni'
Yn ôl Michael Zürn, cyfarwyddwr Canolfan Gwyddor Gymdeithasol Berlin, fe ddigwyddodd uniad Yr Almaen yn 1989 yn rhy gyflym.
"Nid yw trigolion y Bundesländer newydd wedi cael yr argraff fod y datblygiad wedi digwydd gyda nhw, ond yn hytrach drostyn nhw ac mae hyn yn esbonio ein bod yn sylwi ar rywfaint o ddieithrwch ac ymbellhau," meddai.
"O edrych ar wledydd eraill - mae'r Pwyliaid, er enghraifft, yn gallu dweud heddiw eu bod nhw wedi cyrraedd ble maen nhw oherwydd mai nhw eu hunain sydd wedi cyflawni hyn tra yn y Bundesländer newydd, yn fy marn i, ceir y meddwl na nid ein heiddo ni yw hyn."
Bydd Wal Berlin ar BBC Radio Cymru ddydd Sul, 10 Tachwedd am 13:00 neu wedi hynny ar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2019