Cymraes o Lanrwst yn helpu ffoaduriaid yn Yr Almaen

  • Cyhoeddwyd
Sue Palmer
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sue Palmer o Lanrwst fod gweithio gyda ffoaduriaid ym Merlin yn "brofiad anhygoel"

Dywed Cymraes o Faenan ger Llanrwst ei bod hi'n "teimlo'n fraint" dysgu ffoaduriaid yn Yr Almaen i reidio beic er mwyn eu gwneud yn fwy annibynnol.

Mae Sue Palmer o Gonwy yn treulio cyfnod ym Merlin yn sgil gwaith ei gŵr Meic sy'n gymrawd mewn sefydliad ymchwil yn Potsdam gerllaw.

Ym Merlin mae beicio yn ffordd hawdd o deithio o gwmpas y ddinas ond dyw nifer o fewnfudwyr benywaidd ddim yn gallu gwneud hynny gan eu bod wedi'u gwahardd rhag reidio beic yn eu mamwlad.

Nod prosiect #BIKEYGEES yw rhoi hyder i ferched, sydd wedi ffoi, i reidio beic yn ddiogel a sicrhau bod ganddynt fwy o annibyniaeth.

Gwenu fel gât

"Mae'n brosiect gwych," meddai Sue, "mae'r ffaith eu bod yn gallu teithio ar feic wir yn trawsnewid eu bywyd. Dwi wedi gweld nifer ohonyn nhw yn gwenu fel gât wedi iddynt feistroli seiclo gan eu bod bellach yn rhydd i fynd.

"Mae nhw wedyn yn gallu teithio ymhellach - efallai mynd i siop a chario nwyddau ar y beic.

"Yr hyn sy'n digwydd fel arfer yw eu bod yn cael hen feics - mae 'na alw mawr am feics ail law yma."

Ffynhonnell y llun, #BIKEYGEES
Disgrifiad o’r llun,

Mewnfudwraig yn cael gwersi gan wirfoddolwr fel rhan o brosiect #BIKEYGEES

Mae'r Almaen yn un o'r gwledydd sydd wedi derbyn y nifer mwyaf o fewnfudwyr ers 2015.

Ychwanegodd Sue Palmer: "Mae mewnfudwyr wedi cael croeso mawr yma yn Berlin - mae adroddiadau newyddion yn awgrymu nad yw'r croeso wedi bod cystal, yn anffodus, mewn mannau eraill o'r Almaen.

"O fy mhrofiad i, mae'r ffoaduriaid yma yn fodlon gweithio'n galed ac maent yn awyddus iawn i ddysgu'r iaith.

"Mae meddyliau nifer ohonynt adref wrth gwrs - ac y maent yn poeni am eu teuluoedd ac yn eu colli. Doedd y rhai dwi wedi siarad â nhw ddim eisiau gadael eu mamwlad ond roedd rhaid iddyn nhw ac o adael mae nhw'n benderfynol o fyw yn hapus yma a dysgu'r iaith - mae nhw'n falch bod eu plant yn siarad Almaeneg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o unedau arbennig eu codi ym Merlin yn 2015 er mwyn rhoi llety i fewnfudwyr

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Sue: "Mi ges i brofiad y diwrnod o'r blaen gweld dynes â dagrau yn ei llygaid. Mi ddes i ddeall wedyn ei bod hi a'i theulu wedi gorfod ffoi o Afghanistan ar frys.

"Daethan nhw yma - hi, ei gŵr a dau o blant, heb ddim byd ac yn amlwg roedd y gŵr ddim yn hapus ac ro'dd e'n dod adre yn flin.

"Roedd hi'n teimlo o dan bwysau mawr ac roedd ei hunig ffrind yn byw ym mhen arall Berlin ond wedi dysgu reidio beic mae hi bellach yn gallu seiclo i weld ei ffrind i rannu profiadau a dychwelyd erbyn amser ysgol i gasglu'r plant.

"Roedd hi mor braf ei gweld hi yn neidio i fyny ac i lawr o wybod ei bod hi rwan yn gallu reidio beic - mae hynny yn lleddfu ei thristwch."

Profiad anhygoel

Wrth gael i holi am ei dull o gyfathrebu â mewnfudwyr dywedodd Sue ei bod hi i raddau yn gallu uniaethu â'i rhwystredigaethau i raddau gan nad oedd hi'n medru siarad Almaeneg cyn dod i Berlin.

"Dwin deall," meddai, "sut mae'r ffoaduriaid yn teimlo i ryw raddau - dwi i ddim yn 'nabod na deall y ddinas hyd yma.

"Ond mae wir yn fraint i fod efo'r bobl yma. Dwi'n cael modd i fyw - mae nhw mor hael ac mor ddiolchgar. Mae'n brofiad anhygoel."

Cafodd cyfweliad Sue Palmer ei ddarlledu yn llawn ar Bwrw Golwg ac yna ddydd Sul nesaf (10 Tachwedd am 13:00) bydd rhaglen arbennig ar Radio Cymru yn nodi 30 mlynedd ers cwymp wal Berlin.