Heddlu'n ymchwilio i honiadau recordio cudd y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr McEvoy yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth

Mae'r heddlu wedi dechrau ymchwiliad i honiadau o recordio cudd ar ôl derbyn gwybodaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Daw ar ôl i'r comisiynydd sy'n delio â chwynion am wleidyddion yng Nghymru ymddiswyddo, gan ddweud bod Aelod Cynulliad wedi recordio ei sgyrsiau cyfrinachol.

Dywedodd Comisiynydd Safonau'r Cynulliad, Syr Roderick Evans, bod sgyrsiau am "faterion cyfrinachol a sensitif" wedi eu recordio'n ddirgel.

Cadarnhaodd yr AC annibynnol Neil McEvoy ei fod wedi recordio Syr Roderick, ac mae'n ei gyhuddo o wneud sylwadau dilornus.

Fe wnaeth Llywydd y Cynulliad alw am archwiliad o'r safle am ddyfeisiau gwrando cudd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod ymchwiliad wedi dechrau yn dilyn "cyfeiriad gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ymwneud â honiadau o recordio cudd".

Ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr McEvoy, cyn-aelod Plaid Cymru, amddiffyn ei benderfyniad i recordio sgyrsiau cyfrinachol.

Cyhuddodd Syr Roderick o wneud sylwadau dilornus ar sail rhyw, dangos tuedd, llygredd a llywodraethu dros "ddiwylliant ystafell newid".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Syr Roderick Evans adael ei swydd ddydd Llun

Roedd Syr Roderick yn ymchwilio i dri achos yn erbyn Mr McEvoy, gan gynnwys honiad o ddefnyddio £5,000 ar waith adeiladu yn ei swyddfa yng Nghaerdydd.

Dywedodd Syr Roderick bod "nifer o bethau sydd wedi dod allan yn y cyfryngau wedi cael eu cymryd allan o gyd-destun ac yn gamarweiniol".

Dywedodd y Llywydd Elin Jones bod recordio sgyrsiau preifat yn gudd yn "dor-ymddiriedaeth difrifol" a'i bod wedi gofyn i Heddlu De Cymru ymchwilio i sut y cafwyd recordiadau o'r fath.

Ychwanegodd bod trefniadau i archwilio ystâd y Senedd i ddod o hyd i unrhyw ddyfeisiau gwrando.

Mae Mr McEvoy wedi galw ymateb y Llywydd yn "chwerthinllyd".