Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau dros dro y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Dogulas Bain

Mae Aelodau Cynulliad wedi cytuno i benodi Douglas Bain fel Comisiynydd Safonau dros dro, yn sgil ymddiswyddiad Syr Roderick Evans.

Mewn pleidlais roedd 40 AC o blaid, dau yn erbyn a doedd neb wedi ymatal.

Bydd y comisiynydd dros dro yn cael tâl dyddiol o £392.

Mae Neil McEvoy yn honni fod ei recordiadau o sgyrsiau cyfrinachol Syr Roderick Evans yn datgelu sylwadau dilornus ar sail rhyw ac yn dangos tuedd.

Fe wnaeth Syr Roderick ymddiswyddo o'i rôl ddydd Llun ar ôl i recordiadau o'i sgyrsiau ddod i'r amlwg.