'Gofid bod rhywun mas 'na yn trio dwyn cŵn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Jacqueline George: 'Mae'r plant yn ypset ofnadwy.'

Mae perchennog ci sydd wedi cael ei ddwyn yn Sir Benfro wedi gwneud apêl emosiynol iddi gael ei dychwelyd, gyda Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio perchnogion i fod ar eu gwyliadwriaeth.

Mae dau gi Sbaniel Cymreig wedi cael eu dwyn yn yr un ardal yng ngogledd y sir.

Fe ddiflannodd Mali - Sbaniel Cymreig tair oed - ar y 28 Hydref rhwng 16:00 a 17:00 o'r fferm deuluol ym mhentre'r Mot yn Sir Benfro.

Mae ei pherchennog, Jacqueline George, yn sicr ei bod hi wedi cael ei dwyn.

"We' ni ddim adre ar y pryd. We' ni wedi mynd i siopa. Odd y mab yma. Odd e wedi dod mewn i gael te cyn godro.

"Roedd y tair ast tu fas y drws a Mabli 'ma.

"Erbyn bod ni nol, tua chwarter wedi pump, roedd Mabli wedi mynd.

"Dyw hi ddim yn ast i grwydro."

'Pythefnos anodd'

"Ni wedi chwilio bob rhan o'r ffarm. Ni wedi chwilio yn bobman. Ni wedi cael drone 'ma.

"Wedd e'n bendant wedi mynd a hi o'r clos."

"D'wi'n cael ffwdan byta, fi methu cysgu. Fi jyst moyn hi nôl."

Plîs dewch 'nôl a hi."

Disgrifiad o’r llun,

Bethan Sutton: "Ni'n torri ein calonnau"

Ym mhentref Spittal, rhyw saith milltir o'r Mot, mae Bethan Sutton hefyd yn amau bod rhywun wedi dwyn ei hast Sbaniel Cymreig, Daisy, sy'n 13 oed.

"Ni'n torri ein calonnau. D'wi wedi tyfu fyny gyda Daisy. Mae pawb yn teimlo bwlch enfawr."

Mae'r Cwnstabl Gerwyn Davies o'r tîm troseddu gwledig gyda Heddlu Dyfed Powys, yn rhybuddio perchnogion i fod yn wyliadwrus.

"Mae gofid bod pobl mas mewn ardal wledig yn gweld chance i drio mynd â chŵn."

Mae'n dweud fod yna bosibilrwydd fod lladron yn gweld cyfle i wneud arian, gyda gast fridio a thoreth o gŵn bach yn werthfawr iawn.

"Bydden ni gofyn i berchnogion cŵn i'w cadw nhw yn agos, cloi nhw yn y sied. Cadw llygaid arnyn nhw.

"Gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw microchip. Mae gofid bod rhywun mas yna yn trio dwyn cŵn."