Nick Ramsay: Proses dewis ymgeiswyr 'ddim digon da'

  • Cyhoeddwyd
Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n deg dweud mai'r Ceidwadwyr oedd wedi profi'r dechreuad anoddaf i'r broses ymgyrchu, yn ôl Nick Ramsay

Nid oedd y broses o ddewis ymgeiswyr Ceidwadol ar gyfer yr etholiad cyffredinol yng Nghymru yn ddigon da, yn ôl un o Aelodau Cynulliad y blaid.

Dywedodd AC Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay, wrth y BBC bod yna "wersi i'r blaid eu dysgu".

Ychwanegodd bod yr ymgyrch etholiadol yma yn "unigryw" ac nad oedd wedi bod mor rhwydd ag yr oedd rhywun yn gobeithio.

Wrth ymateb i gwestiwn am ddechrau'r broses ymgyrchu, dywedodd ei bod hi'n deg dweud mai'r Ceidwadwyr oedd wedi profi'r dechreuad anoddaf.

"Does dim gwerth mewn smalio bod yr wythnosau diwethaf yma wedi bod yn hawdd," meddai.

"Doedd neb eisiau gweld ni'n colli Alun Cairns reit ar ddechrau'r ymgyrch. Doedd o [y broses o ddewis ymgeiswyr] ddim yn ddigon da i fod yn onest, ac yn bendant mae 'na wersi i'w dysgu."

Ychwanegodd: "Mae 'na wersi i'w dysgu o bob etholiad, ac mae gan y pleidiau eraill eu problemau hwythau hefyd."