Etholiad 2019: Enwau mwyafrif yr ymgeiswyr sy'n sefyll

  • Cyhoeddwyd
Ty'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 650 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin

Mae enwau mwyafrif yr ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholaethau yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol wedi eu cyhoeddi.

Roedd Comisiwn Etholiadol Cymru wedi dweud y dylai enwebiadau gael eu derbyn erbyn 16:00 ddydd Iau.

Mae'r blaid Lafur a'r Ceidwadwyr wedi sicrhau fod cynrychiolwyr o'u pleidiau yn sefyll ymhob etholaeth.

Mae gan Plaid Cymru 36 o ymgeiswyr, gyda Phlaid Brexit a'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda 32, ac mae gan y Blaid Werdd 16 o ymgeiswyr.

Nid oes gan UKIP unrhyw ymgeiswyr oherwydd eu bod am osgoi hollti pleidlais pobl sydd o blaid Brexit.

Mae nifer yr ymgeiswyr benywaidd wedi cynyddu ers yr etholiad cyffredinol diwethaf ddwy flynedd yn ôl.

Gyda'r rhestr lawn o enwebiadau eto i'w gyhoeddi mewn pump o'r 40 sedd, mae'n hysbys bod o leiaf 69 o ymgeiswyr benywaidd hyd yma.

Yn 2017 roedd 66 o fenywod wedi sefyll.

Mae rheolau caeth ynglŷn ag enwebu ymgeiswyr:

  • Mae pob enwebiad yn gorfod cynnwys enwau 10 o etholwyr o'r etholaeth;

  • Mae'n rhaid i bob ymgeisydd dalu blaendal o £500;

  • Bydd yn colli'r arian os bydd yn cael llai na 5% o'r bleidlais.

Mae'r enwebiadau ar gyfer pob sedd yn cael eu hanfon at y cyngor lleol, a fydd wedyn yn cyhoeddi rhestr o'r ymgeiswyr.

Mae pob cyngor yn rhyddhau'r wybodaeth yma ar wahanol adegau, ond yn ôl y Comisiwn Etholiadol fe ddylai'r rhestr gyflawn ar gyfer y 40 etholaeth yng Nghymru fod ar gael yn fuan ar ôl y dyddiad cau.