'Costau uchel' yn bygwth siopau arcêd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau annibynnol mewn arcedau siopau yn cael trafferthion o ganlyniad i gostau uchel, yn ôl un perchennog siop.
Mae Wendy Bottrill, sy'n berchen ar The Pen and Paper yn un o arcedau siopa Caerdydd yn dweud fod busnesau "wirioneddol angen help".
Daw hyn ar ddiwrnod Dinas Arcêd Caerdydd ddydd Sadwrn, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r siopau yn yr arcedau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu £230m i gymryd y pwysau oddi ar rheiny sy'n talu cyfraddau busnes ar draws y wlad eleni.
Yn ôl Ms Bottrill: "Mae'r costau yng Nghaerdydd yn eithriadol o ddrud.
"Mae amryw o ymgyrchoedd ar hyn o bryd i geisio lleihau costau'r stryd fawr, ac mae'r diwydiant wir angen help.
"Rydyn ni'n dal 'mlaen."
Ychwanegodd fod y siopau sydd yn y saith arcêd yng Nghaerdydd, gyda'r hynaf wedi'i adeiladu yn y 1850au, fel "rhwydwaith teuluol".
"Rydym yn cynnig profiad siopa ychydig mwy theatrig yma," meddai.
"Dydyn ni heb gael ein saniteiddio, nid archfarchnad ydyn ni. Mae'r profiad yn llawer gwell na phigo rhywbeth lan mewn siop neu ei brynu ar-lein."
'Chwarter y pris'
Mae Kasim Ali yn berchen Waterloo Tea yn Arcêd Wyndham - un o bum siop ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
"Roeddem eisiau rhywbeth oedd yn cynrychioli ein diwylliant a rhywbeth oedd yn ffitio gyda'n brand, a dim ond un opsiwn oedd wedyn sef yr arcêd," meddai.
"Beth sy'n wych am Wyndham ac arcedau eraill yw os nad ydych chi wedi eu gweld nhw o'r blaen, maen nhw'n anhygoel.
"Maen nhw'n unigryw o'i gymharu â dinasoedd eraill."
Yn ôl Mr Ali mae costau busnes ychydig yn uwch na thu allan i'r ddinas, ond "chwarter y pris" o'i gymharu ag ardaloedd eraill yng nghanol y ddinas.
Mae Chris Manship yn rhedeg un o'r siopau hynaf yn yr arcêd.
Mae The Card Shop yn Arcêd Dominions ger Heol y Frenhines. Fe gafodd ei sefydlu yn 1980 ac mae wedi gweld sawl newid i'r ffordd mae pobl yn siopa.
"Rydym yn cael y gorau o'r ddau fyd," meddai.
"Mae'r rhent wastad am fod yn uwch na y tu allan i'r ddinas.
"Mae'n rhywbeth mae'n rhaid i ni ymdopi ag ef a newid ein cynnyrch, gwerthu'r pethau iawn a symud y busnes ymlaen oherwydd dyw hynny byth yn mynd i newid. Mae yna wastad filiau sydd angen eu talu.
"Mae bywyd yn dda ond yn anodd i fusnesau bach annibynnol. Pan rydych yn dod i arcedau Caerdydd mae'n rhywbeth gwahanol, ond mae'n galed ar y diwydiant ar hyn o bryd."
Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ddydd Sadwrn i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r arcedau.
Yn ôl Rory Flemming, sy'n rheoli'r Morgan Quarter sy'n cynnwys dwy arcêd, maen nhw wedi goroesi oherwydd y "teimlad annibynnol".
Ychwanegodd: "Dwi'n credu pan rydych yn camu fewn i arcêd siopa, yn wahanol i ganolfan siopa fodern, mae yna ychydig o hanes a diwylliant gydag ychydig o hud a lledrith."