Honiadau o wrth-Semitiaeth: Gwahardd aelod Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi gwahardd aelod o'r blaid a gymrodd ran yn eu darllediad gwleidyddol wedi honiadau o wrth-Semitiaeth.
Dywed y blaid y byddant yn cynnal ymchwiliad i sylwadau hanesyddol gan Sahar Al-Faifi ar y cyfryngau cymdeithasol - negeseuon sydd bellach wedi cael eu dileu.
Fe ymddangosodd Ms Al-Faifi yn narllediad gwleidyddol Plaid Cymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ar S4C, BBC Cymru ac ITV Cymru ddydd Iau.
Dywedodd Plaid Cymru nad ydynt yn "goddef unrhyw ffurf o wrth-Semitiaeth".
Mae Ms Al-Faifi wedi dweud ei bod yn difaru'n fawr ei sylwadau "dros bum mlynedd yn ôl".
Hyfforddiant gwrth-semitiaeth
Yn y darllediad mae hi'n dweud yn Saesneg "Activists, it's us", gan gyfeirio at slogan Saesneg y Blaid "Wales, it's us".
Ers y darllediad, mae Ms Al-Faifi wedi cael ei chyhuddo ar y cyfryngau cymdeithasol o wneud sylwadau gwrth-Semitaidd ar Facebook a Twitter rhwng 2012 a 2014.
Dywedodd Ms Al-Faifi ei bod wedi ymddiheuro i sefydliadau Iddewig a'i bod wedi cael hyfforddiant ar wrth-Semitiaeth ers hynny.
"Rydw i wedi ymrwymo i weithio dros Gymru ddiogel ac agored i bawb, ac yn rhydd o unrhyw fath o wahaniaethu neu gamdriniaeth," meddai.
Gwahardd 'yn syth'
Dywedodd Plaid Cymru: "Rydym ni wedi gweithredu'n syth i wahardd y person dan sylw. Byddwn yn ymchwilio i'r honiadau.
"Dyw Plaid Cymru ddim yn goddef unrhyw ffurf o wrth-Semitiaeth, hiliaeth nag anoddefgarwch. Mae hynny'n cynnwys y gamdriniaeth ofnadwy y mae'r unigolyn wedi'i dioddef hefyd.
"Dyw e ddim yn rhan o'r Gymru yr ydym am ei hadeiladu."
Mewn ymateb i awgrym ar raglen Post Cyntaf bod yr achos wedi peri embaras i'r blaid, dywedodd aelod o bwyllgor gwaith cenedlaethol Plaid Cymru: "Yn bendant, mae e."
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Helen Mary Jones bod Ms Al-Faifi, mewn cyfweliad cyn y darllediad etholiadol, "wedi disgrifio'i hunan fel rhywun sydd wedi bod ar daith wleidyddol, sydd wedi dysgu lot".
"'Dwi'n deall bod [Ms Al-Faifi] wedi ymddiheuro yn barod am y tweets a'i bod hi wedi cael trafodaethau efo pobl yn y cymunedau Iddewig yng Nghymru ac wedi ymddiheuro," meddai.
"Bydd hi'n cael cyfle i esbonio hynny, os mae hynny'n wir, trwy broses ddisgyblu'r blaid."
Dywedodd bod efallai angen i'r blaid ystyried rhoi hyfforddiant i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr ar ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol "yn feddylgar ac yn saff".
Ychwanegodd ei bod hi'n "rhy hawdd i bobl ymateb yn sydyn i rywbeth 'da chi'n gweld ar-lein", a bod "pobl hŷn fel fi bach yn fwy gofalus achos 'da ni ddim mor gyfarwydd â'r cyfrwng".
Roedd Plaid Cymru wedi trydar llun o Ms Al-Faifi, sy'n gwisgo gorchudd wyneb niqab, ddydd Iau i hybu darllediad Plaid Cymru yr un noson.
Yn ddiweddarach anfonodd Plaid Cymru neges drydar i ddweud eu bod yn condemnio sylwadau a wnaed wedi'r trydariad cyntaf, sydd bellach wedi ei ddileu.
Mae Ms Al-Faifi hefyd wedi ymddangos ar raglenni BBC Cymru yn trafod ei ffydd.