Gemau cyfrifiadurol yn 'helpu rheoli' PTSD un fenyw

  • Cyhoeddwyd
Jennie Manley a'i theuluFfynhonnell y llun, Jennie Manley

Mae menyw sydd ag anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn dweud bod chwarae gemau cyfrifiadurol wedi bod o fudd iddi reoli ei chyflwr am dros ddegawd.

Fe ddechreuodd Jennie Manley, 34 o Abertawe chwarae'r gemau yn 19 oed.

Ar ôl dioddef o iselder a gorbryder fe wnaeth hi geisio lladd ei hun fwy nag unwaith. Ond roedd ei symptomau yn gwella rhywfaint "tra roedd hi'n chwarae", meddai.

"Hyd yn oed pan oeddwn i ddim yn chwarae, roedd bywyd dydd i ddydd yn teimlo'n haws," meddai Ms Manley, sy'n fam i ddau o blant.

'Cymdeithasu'

Mae ei gorbyder yn "haws i ddygymod ag o am fy mod i ddim yn siarad gyda rhywun wyneb yn wyneb", meddai.

"Dwi'n teimlo mod i'n gallu bod yn fi fy hun. Fel arfer mi fydden ni yn nerfus ofnadwy. Dwi wedi ymlacio llawer mwy ac yn fwy hapus pan dwi ar y we."

Roedd hi'n chwarae am oriau lu bob dydd ar un cyfnod ond ar yr un pryd roedd ganddi swydd ac roedd hi'n astudio yn y brifysgol.

Dyma oedd ei ffordd hi o "gymdeithasu gyda phobl".

"Dwi ddim yn meddwl mod i wedi gwneud gormod. Roeddwn ni yn mynd i fy ngwaith bob dydd ac i'r brifysgol," esboniodd.

"Roedd fy ngŵr yn chwarae gyda fi ar yr un pryd."

Ond a yw gemau cyfrifiadurol yn medru helpu gyda salwch iechyd meddwl?

Yn ôl Dr Eva Murzyn o Brifysgol Caeredin mae'r dystiolaeth ynglŷn ag os yw chwarae gemau yn therapiwtig yn "ansicr" ac mae angen mwy o ymchwil.

Mae yna risg isel i bobl ddod yn gaeth i chwarae'r gemau, "ond dyna'r sefyllfa ar gyfer bron â bod bob achos o bobl sydd yn ceisio helpu eu hunain (self medicate)," meddai.

Mae gemau fideo yn rhywbeth mae pobl yn troi ato, meddai, os nad oes ganddyn nhw fynediad at adnoddau priodol neu therapi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl arbenigwyr mae angen ymchwil er mwyn deall y budd o chwarae gemau fideo

Mae Dr Peter Etchells, sydd yn ddarlithydd seicoleg a chyfathrebu gwyddonol ym Mhrifysgol Bath Spa, yn dweud bod gwerth ystyried chwarae gemau cyfrifiadurol er mwyn trin symptomau iechyd meddwl.

Mae technoleg rithwir wedi ei ddefnyddio er mwyn trin cyn filwyr sydd ag PTSD ac mae yna gemau fideo i helpu plant ddelio gyda galar.

Ar gyfer pobl sydd yn unig mae chwarae gemau cyfrifiadurol yn ffordd iddyn nhw ganfod "tir canol" ag eraill - y gêm sydd yn cael ei chwarae, meddai Dr Etchells.

Ychwanegodd bod y risg i berson fynd yn gaeth yn ddibynnol ar yr unigolyn ac nad oes yna oriau penodol lle y gall hyn ddigwydd.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi diweddaru ei chanllawiau i gynnwys "hapchwarae" fel cyflwr iechyd meddwl yn 2018.

Ers dechrau chwarae mae Ms Manley wedi gwneud ffrindiau ar y we ond hefyd wedi eu cyfarfod nhw wyneb yn wyneb. Mae hefyd wedi magu hyder a thrwy hynny wedi cael dyrchafiad yn ei gwaith.

Erbyn hyn mae wedi lleihau'r oriau chwarae ar ôl iddi gael plant ac yn ymwybodol o'r peryglon ar gyfer ei phlant.

Newid ei bywyd

"Mae fy mhlant yn chwarae. Hyn a hyn maen nhw'n cael chwarae ac rydyn ni yn cadw golwg arnyn nhw.

"Maen nhw'n chwarae'r un gemau dwi'n gwneud ond mae pobl yn gwybod eu bod nhw'n chwarae yn erbyn plant ac yn ffrwyno'r hyn maen nhw'n dweud."

Mae'n dweud bod chwarae wedi helpu ei PTSD.

"Wir yr, dwi ddim yn gwybod lle fydden ni hebddo."