Ehangu cynllun i ddisgyblion roi gwaed yn eu hysgol
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ehangu ar brosiect sy'n galluogi i fyfyrwyr chweched dosbarth roi gwaed yn yr ysgol.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn annog pobl yn eu harddegau i fod yn rhoddwyr ar hyd eu hoes.
Mae sesiynau wedi cael eu cynnal yn Ysgol Uwchradd Stanwell ym Mhenarth, Ysgol Gyfun y Bont-faen, Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ac Ysgol Gyfun Porthcawl ers 2015.
Mae dros 1,100 peint o waed wedi cael eu casglu fel rhan o'r cynllun hyd yn hyn.
'Gwasanaeth mor bwysig'
Nawr mae pum ysgol arall wedi cytuno i gynnal sesiynau, sef Ysgol Y Pant ym Mhont-y-clun, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, Ysgol Ferched Trefynwy, Ysgol Gyfun yr Olchfa yn Abertawe ac Ysgol Basaleg yng Nghasnewydd.
Dywedodd Gwasanaeth Gwaed Cymru eu bod yn disgwyl y bydd rhagor o ysgolion yn ymuno â'r cynllun y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Pennaeth Uwchradd yr Eglwys Newydd - wnaeth gynnal ei sesiwn gyntaf yr wythnos hon - bod disgyblion wedi ymuno "yn eu dwsinau".
"Roedd 96 slot ar gael ac roedden nhw bron yn llawn," meddai Mark Powell, wnaeth hefyd roi gwaed ei hun yn y sesiwn.
"Mae'n wasanaeth mor bwysig, a bydd cymaint ohonom ei angen ar ryw bwynt yn ein bywydau.
"Roedd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn wych - yn eich gwneud i ymlacio ac edrych ar eich hôl."
Dywedodd Maddie, 17, ei bod yn nerfus cyn iddi roi gwaed ond ei bod wedi sylweddoli yn ddiweddarach ei fod yn "hollol iawn".
Ychwanegodd ddisgybl arall, Michael ei bod yn bwysig bod unrhyw un sy'n gallu rhoi gwaed yn gwneud hynny am ei fod yn "allweddol i unrhyw un sydd ei angen".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019