'Dim siom' dros safiad niwtral Brexit Jeremy Corbyn
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud nad yw'n "siomedig" ynghylch safiad niwtral arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ar refferendwm Brexit pellach.
Wrth lansio ymgyrch Llafur Cymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn Wrecsam, dywedodd Mark Drakeford y byddai Llywodraeth Lafur yng Nghymru'n ymgyrchu'n "frwd a diamod" dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae safiad niwtral Mr Corbyn, meddai, "yn gredadwy" gan fyddai'n rhaid iddo weithredu "beth bynnag yw penderfyniad y bobl".
Pe byddai'n dod yn Brif Weinidog y DU, mae Mr Jeremy Corbyn wedi addo sicrhau dod i gytundeb Brexit newydd gyda'r UE a gadael i'r cyhoedd ddewis rhwng y cytundeb hwnnw ac aros yn yr UE.
"Mae gyda fe gyfrifoldebau gwahanol i minnau," meddai Mr Drakeford, "dydw i ddim yn siomedig o gwbwl."
"Fy job i yw sefyll dros yr hyn sy'n gywir i Gymru ac rydym yn glir mai aros yn yr UE yw'r ateb cywir.
"Bydd yn rhaid i Jeremy weithredu beth bynnag mae'r bobl yn penderfynu, a fydd e'n cadw'i hun yn barod i wneud hynny".
Yn refferendwm 2016, roedd 52.5% o'r pleidleisiau o blaid gadael yr UE a 47.5% yn cefnogi aros.
'Manteision dwy lywodraeth Lafur'
Yn y lansiad yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam, dywedodd Mr Drakeford wrth gefnogwyr y byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn galluogi ei weinyddiaeth yntau ym Mae Caerdydd "i fynd yn bellach ac yn llawer cyflymach".
Dywedodd bod ei blaid eisoes wedi cyflwyno llawer o fesurau "radical", gan gynnwys dileu'r hawl i brynu tai cyngor, gwahardd ffracio a sefydlu Banc Datblygu Cymru.
Ychwanegodd y byddai partneriaeth gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn helpu sicrhau Cymru carbon niwtral, band-eang ffibr di-dâl llawn, a system fudd-daliadau "decach" yn lle'r Credyd Cynhwysol.
Fe amddiffynnodd cynlluniau gwariant Llafur ar gyfer Cymru gan ddweud y bydden nhw'n codi "£3.4bn y flwyddyn mewn refeniw i ni fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd ac addysg, adeiladu'r tai rydyn ei hangen, a dad-wneud y niwed i'r wlad yma wedi degawd o esgeulustod".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019