Gorllewin Y Rhyl ar frig rhestr amddifadedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr Y RhylFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stryd Fawr y Rhyl yn ardal wardiau gorllewinol y dref

Gorllewin Y Rhyl sydd â'r cymunedau mwyaf anghenus yng Nghymru yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Dwy o wardiau'r dref sydd ar frig Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.

Mae'r mynegai'n ystyried wyth o ffactorau - gan gynnwys incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad i wasanaethau, tai, yr amgylchedd corfforol a diogelwch cymunedol.

Mae'r ward oedd ar frig y mynegai diwethaf yn 2014 - rhan o ystâd Parc Lansbury yng Nghaerffili - bellach yn y drydydd safle.

Un o wardiau gorllewin Y Rhyl oedd ar frig y tabl yn 2008 a 2011 hefyd.

Yn Yr Wyddgrug y mae ward leiaf difreintiedig Cymru ym Mynegai 2019.

Mae'r asesiadau'n cymharu ardaloedd bach yng Nghymru, neu wardiau, sydd â phoblogaethau tebyg o ran nifer.

Casnewydd yw'r awdurdod lleol gyda'r gyfran uchaf o wardiau anghenus, ond doedd dim un ward ddifreintiedig yn y sir gyfagos, Mynwy.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates bod Llywodraeth Cymru "wedi ymrwymo'n llawn" i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau mewn sawl ffordd.

Mae'r camau, meddai yn cynnwys cynlluniau economaidd a chymunedol i "sbarduno twf yr economi yng Nghymru" a "lleihau'r bwlch rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a'n hardaloedd sy'n ffynnu".