Cyfri'n Gymraeg yn helpu plant gyda mathemateg?
- Cyhoeddwyd
Sut gall yr iaith mae plentyn yn ei siarad effeithio ar ei allu i ddatblygu sgiliau mathemateg?
Wel, yn ôl ymchwil diweddar gan wyddonwyr, mae Cymraeg yn un o'r ieithoedd sy'n help i blant ddysgu mathemateg pan maen nhw'n ifanc.
Angen system gyfri rhesymegol
Mae bron pob iaith yn defnyddio ffurf degolion wrth gyfri, sef trefnu'r digidau 0-9 i unedau, degau, cannoedd ac ati. Mae'r systemau cyfri mwya' rhesymegol yn defnyddio geiriau sy'n adlewyrchu strwythur y system gyfri yma.
Bellach mae'r Gymraeg yn dilyn y confensiwn yma, drwy ddweud 'naw deg dau' am 92 (mae'r hen gonfensiwn Cymraeg mwy traddodiadol o ddweud 'deuddeg ar bedwar ugain' yn cael ei ystyried yn rhy gymhleth bellach).
Yn yr iaith Mandarin mae jiǔ shí èr yn cyfieithu i "naw deg dau" (nine ten two), ac mae ieithoedd Korea a Japan yn defnyddio ffurfiau tebyg hefyd.
Fodd bynnag, mae rhai ieithoedd yn defnyddio systemau cymhleth a blêr yn lle.
Yn Ffrangeg mae 92 yn cael ei ddweud fel quatre-vingt douze (pedwar ugain a deuddeg). Yn yr iaith Ddaneg y gair am 92 yw tooghalvfems, lle mae halvfems (90) yn fyrfodd o'r hen air Norwyaidd halvfemsindstyve, a olygai "pedair a hanner wedi ei luosi efo ugain".
Yn Saesneg gall ninety-two fod yn anodd i blant sy'n dysgu cyfri, gan ei bod hi'n anodd amgyffred gwerth 'ninety'.
Ymchwil
Mae gwaith ymchwil diweddar yn yr Unol Daleithiau yn edrych ar pa mor glir yw system gyfri iaith, a'r ffordd rydyn ni'n prosesu rhifau.
Mewn un darn o ymchwil gofynnwyd i blant gyfleu rhif fel 42 gan ddefnyddio blociau o 10au ac unedau unigol. Roedd plant o'r Unol Daleithiau a Ffrainc yn cyfri 42 bloc yn unigol, lle roedd plant o Japan a Korea yn fwy tebygol o ddefnyddio pedwar bloc o 10 a dau floc unigol, sy'n awgrymu bod dehongliad plentyn o rifau yn cael ei lunio gan yr iaith maent yn ei defnyddio.
Mae'r ymchwil hefyd yn amlygu trafferthion mae systemau mwy cymhleth o rifo yn gallu ei achosi, fel yn achos Iseldireg.
Mae rhifau'r iaith honno yn cael ei hysgrifennu 'go chwith' (38=wyth a thri deg), felly yn ôl ymchwilwyr, pan mae plentyn yn gweld rhif, mae'n rhaid ei leisio yn fewnol, ac wedyn dychmygu ble mae ei leoliad ar linell.
Mae'r cam ychwanegol o orfod newid trefn y rhif cyn gallu asesu ei werth, yn yn achosi straen wybyddol (cognative) ychwanegol sy'n effeithio ar berfformiad y plentyn.
Effeithio ar blant ac oedolion
Nid dim ond plant sy'n cael eu heffeithio gan hyn, meddai Iro Xenidou-Dervou o Brifysgol Loughborough a fu'n arbrofi gyda meddalwedd yn dilyn tracio â llygaid (eye-tracking).
"Mae'r system eye-tracking yn dangos y broses wybyddol, achos rydyn ni'n gallu gweld os ydynt yn cymryd hirach i fynd drwy'r wybodaeth a gweld os yw'r bobl sy'n cymryd rhan yn edrych ar y rhif anghywir."
Yn yr arbrawf, roedd pobl o wahanol grwpiau'r un mor gywir gyda safle'r llygaid erbyn y diwedd, ond pan oedd y rhifau yn cael eu hadrodd, roedd siaradwyr Iseldireg yn fwy tebygol o edrych ar y rhif 'tu chwith' gyntaf. Felly, pe bai gofyn i edrych ar 94, byddai eu llygaid efallai'n troi at 49.
Mae'r canlyniadau yn eithaf annisgwyl, achos mae disgwyl bod oedolion yn gallu prosesu rhifau yn awtomatig. Ond er bod gallu mathemateg rhwng gwahanol ddiwylliannau yn debyg, fe all ffordd llai clir Iseldireg o rifo ei gwneud hi'n anoddach i siaradwyr yr iaith.
"Mae'r effaith yn fychan, ond eto yn ei hanfod, rhifedd (numeracy) yw amcangyfrif rhif ar linell," meddai Xenidou-Dervou. "Fel oedolion rydyn ni'n gwneud pethau cymhleth o ddydd i ddydd, ac felly gall yr anawsterau bychain mae systemau rhifo eu hachosi greu rhwystr i sgiliau mathemategol rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd."
Sut mae'r Gymraeg yn cael effaith?
Gyda phlant yn cael eu haddysgu o dan yr un cwricwlwm ond yn Gymraeg a Saesneg yng Nghymru, mae'n bosib edrych os yw iaith yr addysgu yn gwneud gwahaniaeth.
Cafodd plant chwech oed, sydd yn cael eu haddysgu yn Gymraeg a Saesneg, eu profi ar eu gallu i amcangyfrif lleoliad rhifau dau ddigid ar linell rhif gwag, a oedd wedi cael ei labelu '0' ar y naill ben a '100' ar y llall. Roedd y ddau grŵp wedi perfformio'r un fath mewn profion rhifyddeg cyffredinol, ond roedd canlyniad y plant Cymraeg yn well yn y dasg amcangyfrif.
"Rydyn ni'n credu fod hyn oherwydd bod gan blant cyfrwng Cymraeg ddealltwriaeth ychydig fwy manwl gywir o rifau dau ddigid," meddai Ann Dowker, prif awdur yr astudiaeth a seicolegydd arbrofol ym Mhrifysgol Rhydychen. "Mae'n bosib fod ganddyn nhw well dealltwriaeth o'r berthynas rhwng rhifau, pa mor fawr ydyn nhw o'i gymharu â rhifau eraill."
Felly, er ein bod i gyd ar draws y byd yn defnyddio'r un rhifau, gall y geiriau rydyn ni'n eu defnyddio ddylanwadu ar sut rydyn ni'n meddwl amdanynt a sut rydyn ni'n eu prosesu.
Maen nhw'n dweud bod mathemateg yn iaith ryngwladol, ond efallai nad yw hynny'n wir wedi'r cyfan.
Hefyd o ddiddordeb: