Bron i 200 o blant ysgol uwchradd yng Nghaerfyrddin yn sâl
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol yn Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi rhybudd i rieni ar ôl i bron i 200 o ddisgyblion gael eu taro'n wael.
Fe gadarnhaodd y cyngor sir bod 193 o blant Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin yn sâl ddydd Gwener.
Mewn datganiad, mae'r ysgol yn gofyn i rieni gadw plant i ffwrdd o'r ysgol os ydyn nhw'n sâl.
Dywedodd datganiad yr ysgol: "Yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gofynnwn i chi i sicrhau, os yw eich plentyn yn sâl gyda byg stumog, i sicrhau nad yw'n dychwelyd am 48 awr yn dilyn y salwch."
Mae tua 900 o ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd, gan gynnwys 180 o ddisgyblion chweched ddosbarth.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn cefnogi'r cyngor wrth ymchwilio i'r salwch yn yr ysgol.
Ychwanegodd Siôn Lingard o ICC: "Mae ymchwiliad yn parhau i darddiad ac achos y salwch, ond y gred yw mai salwch tymhorol, fel norofirws, ydy'r achos mwyaf tebygol."
Ychwanegodd y dylai unrhyw un sy'n dioddef symptomau gadw draw o'u hysgolion, meithrinfeydd neu waith, a chymryd cyngor gan eu meddyg teulu neu NHS Direct.
Mae hefyd yn annog pobl i olchi eu dwylo yn drylwyr cyn paratoi bwyd a pheidio rhannu tyweli, er mwyn atal y salwch rhag lledaenu.