Terfysgwr Llundain: Cysylltiadau â Chaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad terfysgol yn Llundain ddydd Gwener yn gyn garcharor oedd wedi ei gael yn euog o droseddau terfysgol oedd a chysylltiadau â Chaerdydd.
Roedd Usman Khan, 28 wedi ei ryddhau a'r drwydded o'r carchar pan ddigwyddodd yr ymosodiad lle cafodd dyn a dynes eu llad, a thri arall eu hanafu.
Cafodd Khan ei saethu'n farw gan yr heddlu
Yn 2012 fe'i cafwyd yn euog o droseddau terfysgol. Clywodd llys ar y pryd fod yr heddlu a swyddogion MI5 wedi bod yn dilyn gweithgareddau grŵp o Stoke-on-Trent, Llundain a Chaerdydd.
Roedd y cynllunwyr, gan gynnwys tri dyn o Gaerdydd, wedi trafod ymosod ar y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain a thafarndai yn Stoke.
Cafodd y dynion gan gynnwys Khan eu harestio yn 2010.
Fe'i gwelwyd yn cwrdd â'i gilydd ym Mharc y Rhath, Caerdydd ar 7 Tachwedd 2010 i drafod eu cynllun
Clywodd achos llys yn 2012 iddynt hefyd gwrdd ym Mharc Gwledig Cwmcarn, ger Caerffili ar 12 Rhagfyr 2010 i drafod gosod bomb yn y gyfnewidfa stoc.
Yn wreiddiol cafodd Khan a dau arall ddedfrydau diamod am eu rhan yn y cynllwyn, ond cafodd y ddedfryd ei newid ar apêl.
Dywedodd Neil Basu, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu'r Met i Khan gael ei ryddhau o'r carchar yn Rhagfyr 2018.
"Yn amlwg, un o'r prif gwestiynau i'r ymchwiliad sy'n cael ei gynnal nawr yw i wybod sut a pam iddo weithredu fel hyn," meddai.