Y Bencampwriaeth: Nottingham Forest 0-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Nathaniel Mendez-LaingFfynhonnell y llun, Matt Bunn/BPI/REX/Shutterstock

Parhau mae record ddiguro Caerdydd dan eu rheolwr newydd, Neil Harris, gyda thîm yn brifddinas yn ennill eu gêm gyntaf oddi cartref y tymor hwn.

Daeth y gôl holl bwysig yn erbyn rhediad y chwarae, ar ôl ergyd 20 llath gan Nathaniel Junior Hoilett ar ôl cyd chwarae da gyda Junior Hoilett.

Bu'n rhaid i'r ymwelwyr wrthsefyll pwysau mawr gan Forest, ond bu bron i Gaerdydd fynd ymhellach ar y blaen dim ond i Joe Lolley glirio'r bêl oddi ar y llinell yn dilyn ymdrech Gary Madine.

Daeth Jack Robinson yn agos i Forest, ond llwyddodd amddiffyn Caerdydd i ddal yn gadarn i sicrhau'r tri phwynt.

Golygai'r canlyniad fod Caerdydd yn symud i fyny i'r 10fed safle yn y Bencampwriaeth.