Proffil llawn: Hollie Arnold

  • Cyhoeddwyd
Hollie ArnoldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hollie Arnold wedi ennill pedwar teitl byd yn olynol yn y waywffon F46

Enillodd Hollie Arnold ei phedwerydd teitl byd yn olynol yn y waywffon ym Mhencampwriaethau Para-Athletau'r Byd 2019 yn Dubai yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ym mis Tachwedd.

Fe wnaeth Arnold sefydlu record newydd ar gyfer y bencampwriaeth ac Ewrop, sef 44.73m, i amddiffyn ei theitl gwaywffon F46 y merched.

Cafodd y ferch 25 oed ei gwthio yr holl ffordd gan Holly Robinson o Seland Newydd, a oedd wedi torri record byd Arnold yn y mis Ebrill blaenorol drwy daflu 45.74m.

Dechreuodd Arnold drwy daflu 40.97m a 40.45m, felly symudodd Robinson i safle'r aur pan daflodd 41.60m yr ail dro.

Ond ymatebodd Arnold i hynny gyda'r dafliad enfawr honno yn y drydedd rownd, a chael 30 centimetr o gynnydd yn ei sgôr personol gorau.

Er i'w gwrthwynebydd o Seland Newydd geisio ymateb, ni ddaeth tair ymdrech nesaf Robinson yn agos i gymryd y blaen eto, a chafodd Arnold ei choroni'r gorau yn y byd unwaith eto.

Dechrau'n ifanc

Cafodd Arnold ei geni heb elin dde, a chafodd ei chyflwyno i'r waywffon yn y Star Track yn Cleethorpes, sef digwyddiad i annog plant i brofi'r holl ddisgyblaethau mewn athletau trac a maes.

10 oed oedd hi ar y pryd a gwelodd ei brawd hŷn Ashley yn rhoi cynnig ar y waywffon a gofynnodd am gael cynnig ei hun. Canfu fod ganddi ddawn ar gyfer y gystadleuaeth ac ymunodd â Chlwb Athletau Cleethorpes er mwyn hyfforddi'n rheolaidd - gan gystadlu ar y ddisgen a'r maen taflu ar lefel byd ieuenctid.

Ond yn y waywffon yr oedd hi'n rhagori, a gwnaeth gynnydd anhygoel, cymaint fel mai hi, pan oedd hi'n 14 blwydd oed a 74 diwrnod, oedd aelod ieuengaf tîm athletau Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing, lle daeth yn 11eg yn y waywffon i ferched F42-46.

Bu newidiadau mawr yn y ddwy flynedd nesaf, oherwydd symudodd y teulu i dde Cymru o'u cartref yn Grimsby yng ngogledd Swydd Lincoln, felly roedd hi'n gallu hyfforddi yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yn 2009, enillodd ei medalau arwyddocaol cyntaf, sef yr arian yn y ddisgen F46 ac efydd yn y waywffon F46 yng Ngemau Iau y Byd IWAS yn y Swistir.

Dyna oedd y tro diwethaf i Arnold gystadlu mewn pencampwriaeth ar y ddisgen, oherwydd penderfynodd ganolbwyntio'n llwyr ar y waywffon.

Ond dyna pryd hefyd y cafodd Arnold anafiadau, gan gynnwys straen i'w hysgwydd a thorasgwrn straen yn ei chefn, ac amharodd hynny ar ei chynnydd.

Hollie ArnoldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hollie Arnold yn bencampwr Byd, Olympaidd, Cymanwlad ac Ewropeaidd ar hyn o bryd

Yn 2010, cafodd y fedal arian yng Ngemau Ieuenctid y Byd, a chanlyniad gwell eto y flwyddyn wedyn pan enillodd y fedal aur F37/40/46 yn y Gemau a gynhaliwyd yn Dubai - lle byddai'n dychwelyd wyth mlynedd yn ddiweddarach i gipio ei phedwerydd teitl byd hŷn.

Yr un flwyddyn, aeth Arnold ymlaen i gynrychioli Prydain ar lefel hŷn ym Mhencampwriaeth Para-Athletau'r Byd 2011 yn Christchurch, Seland Newydd, lle gwnaeth argraff ar unwaith drwy ennill y fedal efydd yn y waywffon F46.

Cafodd fedal arall wedyn yn 2012 pan ddaeth yn ail yn y Gemau Ewropeaidd yn Stadskanaal yn yr Iseldiroedd. Cafodd ei dewis hefyd ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012, lle daeth yn bumed.

Dim ond mater o amser oedd hi i Arnold ennill teitl hŷn, a digwyddodd hynny yn 2013 pan oedd hi ar frig y podiwm ym Mhencampwriaeth Para-Athletaidd y Byd yn Lyon, Ffrainc, sef canlyniad y byddai'n ei gael eto ddwy flynedd yn ddiweddarach pan enillodd ei hail fedal aur byd yn Doha, Qatar.

A hithau wedi ennill dau deitl byd, cystadlodd Arnold yn y Gemau Paralympaidd yn Rio yn 2016 fel y ffefryn, ac fel coron ar ei dyrchafiad i amlygrwydd yn y byd chwaraeon enillodd y fedal aur yn y waywffon F46 pan gystadlodd am y trydydd tro yn y Gemau.

Sefydlodd Arnold record byd newydd, ac yna torodd y record hwnnw drwy daflu 43.01m gan gymryd y teitl mewn ffordd bendant. Nid oedd modd ei churo yn 2016, ac enillodd bob cystadleuaeth y flwyddyn honno.

Cafodd ei hurddo'n MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, a bu'n fuddugol eto yn Llundain pan gafodd Pencampwriaeth Para-Athletau'r Byd eu cynnal ym Mhrydain y flwyddyn honno drwy gael ei thrydedd medal aur yn olynol.

Yn Gemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur yn Awstralia, cipiodd Arnold y fedal aur dros Gymru drwy daflu 44.43m. Yna, ychwanegodd fedal aur Ewropeaidd yn y wawyffon F46 i gwblhau'r gyfres lawn o deitlau - sef Byd, Paralympaidd, y Gymanwlad ac Ewropeaidd - gan dorri record pencampwriaeth dair gwaith ar ei ffordd i fuddugoliaeth.

Mae hi wedi parhau i fod ar y blaen eleni, ac mae golygon Arnold ar gadw ei theitl Olympaidd yn Tokyo yn 2020 ac adennill y record byd oddi ar Robinson.