Proffil llawn: Elinor Barker

  • Cyhoeddwyd
Elinor BarkerFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Elinor Barker yn curo Kirsten Wild o'r Iseldiroedd i gipio'r aur ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd

Mae Elinor Barker wedi profi ei bod yn dal yn un o sêr y byd seiclo drwy ennill medal aur a medal arian ym Mhencampwriaeth Trac y Byd 2019 ym mis Chwefror.

Daeth y ferch 25 oed yn ail yn y ras 'scratch' yn 2017, ond arddangosodd ei holl sgiliau rasio i ennill y tro hwn yn Pruszkow, Gwlad Pwyl.

Roedd Barker yn eistedd yng nghefn y criw am 38 o'r 40 lap, cyn dechrau ymosodiad pwerus i fynd heibio Kirsten Wild, sef yr enillydd yn 2015 a 2018, a chadw ei gwrthwynebydd o'r Iseldiroedd yn ôl wrth fynd tuag at y llinell.

Roedd hi hefyd yn aelod o bedwarawd Prydain - gyda Laura Kenny, Katie Archibald ac Ellie Dickinson - a enillodd yr arian yn ras ymlid tîm y merched 0.204 eiliad y tu ôl i Awstralia. Collodd le ar y podiwm o fymryn yn y madison, pan ddaeth yn bedwerydd gyda'i chymar yn y tîm, Neah Evans.

Mae'r haf wedi bod yn gyfnod gwael i Barker, gan fod yr aelod o dîm Drops Cycling wedi torri pont ei hysgwydd mewn damwain ar ddiwedd y RideLondon Classique ym mis Awst.

Wnaeth Barker ddim môr a mynydd o'r peth, dywedodd: "Dydych chi ddim yn seiclwr go iawn hyd nes rydych chi wedi torri pont yr ysgwydd."

Y mis blaenorol, roedd hi hefyd wedi datgelu ei bod hi wedi dioddef o endometriosis am y rhan fwyaf o'i gyrfa.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Elinor Barker (ail o'r chwith) yn ennill aur yn y ras ymlid tîm

Ond roedd hi'n ôl ar gyfer Cwpan Trac y Byd yn Glasgow ym mis Tachwedd, i helpu merched Prydain i hawlio'r aur yn y ras ymlid tîm gydag Archibald, Evans a Dickinson, a tra roedd hi mewn tandem gydag Archibald, fe wnaeth hi ychwanegu'r fedal arian yn y madison.

Dangosodd y cyn-aelod o glwb iau seiclo Maindy Flyers ei doniau pan gafodd Barker ei choroni'n bencampwraig byd Junior Time Trial yn 2012, sef llwyddiant a gydnabuwyd pan bleidleisiwyd mai hi oedd Chwaraewraig Iau y Flwyddyn Carwyn James yng nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales 2012.

Daeth hi'n bencampwraig byd hŷn y flwyddyn wedyn pan nad oedd hi ond 18 oed, pryd daeth y fyfyrwraig Lefel A yn aelod o driawd ras ymlid tîm y merched Prydain a wnaeth guro Awstralia ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd 2013 yn Belarws.

Fe wnaeth Barker ennill ei theitlau pwysig cyntaf dros Gymru pan enillodd y fedal arian yn ras bwyntiau'r merched a'r fedal efydd yn y ras 'scratch' yn Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow.

Yn 2015, cafodd deitl Trac Ewropeaidd yn y ras ymlid, er bod rhaid i Barker a'i chyd-aelodau dderbyn y fedal arian ym Mhencampwriaethau'r Byd.