Proffil llawn: Menna Fitzpatrick

  • Cyhoeddwyd
Menna FitzpatrickFfynhonnell y llun, Luc Percival IPC
Disgrifiad o’r llun,

Menna Fitzpatrick (chwith) a'i thywysydd Jen Kehoe yw'r cyntaf o Brydain i ennill teitlau Byd ac Olympaidd wrth sgio

Mae Menna Fitzpatrick a'i thywysydd Jennifer Kehoe wedi parhau i arloesi yn y byd sgio drwy lwyddo ym Mhencampwriaeth Para-Alpaidd y Byd 2019.

Fe wnaethant gipio dwy fedal aur, dwy fedal arian ac un fedal efydd yn y cystadlaethau a gynhaliwyd ar y cyd yn Kranjska Gora, Slofenia, ac yn Sella Nevea, yr Eidal - gan ddod yn sgiwyr cyntaf Prydain i ennill y teitl Paralympaidd a'r teitl byd.

Mae Fitzpatrick yn 21 oed ac mae nam ar ei golwg, ac mae Kehoe yn 36 oed, a daethant i'r Pencampwriaethau ym mis Ionawr ymhlith y ffefrynnau ar ôl cipio pedair medal yn Gemau Paralympaidd y Gaeaf 2018 yn Pyeongchang, De Korea, gan gynnwys y fedal aur yn y slalom.

Dechreuodd y ddwy yn Slofenia drwy ennill y fedal efydd yn 'giant slalom' y merched, ac yna y fedal arian yn y slalom.

Pan symudodd y cystadlu i'r Eidal ar gyfer y campau cyflym, fe wnaeth gymryd Fitzpatrick a Kehoe gymryd camau breision drwy gipio'r teitl goriwaered, gyda'u cyd-aelodau o dîm Prydain, sef Kelly Gallagher a'i thywysydd Gary Smith, yn cipio'r fedal arian.

Yna, enillodd Fitzpatrick a Kehoe fedal aur arall yn y 'super giant slalom' (super-G), gan ychwanegu medal arian arall yn y 'super combined' - sef cyfuno amseroedd o'r 'super-G' gyda'r slalom.

Pan aethant yn ôl i Gwpan y Byd, daeth y ddwy â'u hymgyrch i ben yn y rowndiau terfynol ym mis Mawrth. Ar lethrau Morzine yn Ffrainc, lle dysgodd i sgio, cipiodd Fitzpatrick y fedal arian a'r fedal aur yn y ddwy ras slalom.

Cafodd Fitzpatrick ei geni gyda phlygiadau i'r retinâu. Nid yw hi'n gallu gweld drwy ei llygad chwith ac mae ei golwg yn brin yn ei llygad dde.

Wnaeth hynny ddim ei rhwystro rhag mynd ar wyliau sgio gyda'i theulu oddi ar pan oedd hi'n bump oed, gan sgio y tu ôl i'w thad a syrthio mewn cariad gyda'r gamp.

Menna FitzpatrickFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Menna Fitzpatrick (chwith) a'i thywysydd Jen Kehoe wedi bod yn cystadlu ar lefel Cwpan y Byd ers 2016

Ym mis Hydref 2010, cafodd ei gweld gan hyfforddwr yn nghanolfan sgio dan do Chill Factore ym Manceinion, a dechreuodd hyfforddi'n rheolaidd gyda thîm Chwaraeon Eira Para Prydain.

Cystadlodd Fitzpatrick am y tro cyntaf yn rhyngwladol a hŷn dros Brydain yn 2012, ac ym mis Mawrth 2016, fe wnaeth hi a Kehoe greu hanes drwy fod y sgiwyr cyntaf o Brydain i ennill teitl nam ar y golwg Cwpan y Byd dros bawb yn Aspen yn yr Unol Daleithiau.

Digwyddodd hyn i'r ferch a oedd yn 17 oed ar y pryd pan oedd yn cystadlu am y tro cyntaf ar lefel Cwpan y Byd, gyda'r ddwy hefyd yn ennill teitl cyffredinol y 'giant slalom', y fedal arian yn y 'super-G' cyffredinol a'r fedal efydd yn y goriwared cyffredinol a'r cystadlaethau slalom.

Fe wnaeth Fitzpatrick dorri ei llaw ar ôl disgyn wrth hyfforddi ar gyfer y 'super-G' ym mis Hydref cyn tymor 2016-17. Roedd angen iddi gael llawdriniaeth, ac roedd hi'n methu hyfforddi ar yr eira am wyth wythnos.

Ond er gwaethaf yr anaf, fe wnaeth Fitzpatrick a Kehoe gipio'r fedal efydd yn y 'giant slalom' ym Mhencampwriaethau Byd Sgio Para-Alpaidd 2017 yn Tarvisio, yr Eidal ym mis Ionawr, a daeth cyd-aelod o dîm Prydain, Knight, yn ail.

Roedd Fitzpatrick a Kehoe wedi dechrau tymor 2017-29 mewn ffordd ragorol, gan ennill dwy fedal arian a dwy fedal efydd yng Nghwpan y Byd Sgïo Para-Alpaidd yn Kuhtai, Awstria.

Fe wnaeth sawl rownd o Gwpan y Byd ddioddef tywydd gwael y tymor hwnnw, ond fe wnaeth Fitzpatrick a Kehoe ychwanegu dwy fedal arian arall, sef yn y 'giant slalom' a'r slalom, yn Veysonnaz, y Swistir, cyn i'r gystadleuaeth fynd i Ganada ar gyfer y rowndiau terfynol ym mis Chwefror.

Yn y gystadleuaeth bwysig olaf cyn y Gemau Paralympaidd, cafodd y ddwy eu coroni'n bencampwyr cyffredinol 'super-G' yn Kimberley, felly cawsant hwb ychwanegol wrth baratoi ar gyfer Gemau Paralympaidd y Gaeaf 2018 yn Ne Korea.

Fe wnaeth Fitzpatrick a Kehoe greu hanes yn Pyeongchang pan wnaethant gipio pedair medal i fod yn Baralympiaid gaeaf mwyaf llwyddiannus Prydain.

Cafodd y ddwy fedalau arian yn y 'giant slalom' a'r 'super combined', ynghyd â medal efydd yn y 'super-G'. Ac ar ddechrau diwrnod olaf y cystadlu, roedd ganddynt un cyfle arall am fuddugoliaeth yn y slalom.

Roedd Prydain yn dal heb fedal aur, a doedd pethau ddim yn mynd yn iawn ar ôl y rhedfa gyntaf, gan fod Fitzpatrick a Kehoe y tu ôl i Henrieta Farkasova a Natalie Subrtova o Slofacia, a oedd yn cystadlu am eu pumed medal aur yn y Gemau.

Ond yn yr ail redfa, fe wnaeth Fitzpatrick wrthdroi'r diffyg ac ennill, oherwydd roedd Farkasova wedi methu arddangos yr un sgiliau gleidio ar y rhan gwastad o'r cwrs ac er ei bod 0.66 eiliad ar y blaen i ddechrau, aeth hi wedyn yr un faint y tu ôl i'r ferch o Brydain, a gorfod setlo am fedal arian.

Cafodd llwyddiant Fitzpatrick a Kehoe ei gydnabod yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ym mis Mehefin, pan dderbyniodd y ddwy MBE.

Ar ôl dwy flynedd ar ben y byd, mae'r ddwy yn paratoi ar gyfer dechrau tymor newydd Cwpan y Byd ym mis Ionawr 2020.