Cyrch heddlu 'mwyaf o'i fath' yn y Trallwng
- Cyhoeddwyd
Mae tri o ddynion wedi cael eu harestio yn y Trallwng yn dilyn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio gan Heddlu Dyfed Powys fel y cyrch cyffuriau mwyaf o'i fath.
Mae'r tri dyn - sy'n 31, 23 ac 17 oed - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi heroin a chocên. Maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Roedd 75 o swyddogion yn rhan o'r cyrch ar Faes Carafannau Leighton Arches ar gyrion y dref am 07:00 fore Mercher ar ôl derbyn gwarant gan ynadon.
Yn ôl yr heddlu mae disgwyl i nifer fawr o swyddogion barhau a'u hymchwiliadau ar y safle am rai oriau.
Tawelu meddyliau
Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Ifan Charles: "Mae'r cyrch yma yn rhan o'n hymdrechion i fynd i'r afael a gwerthu cyffuriau yn anghyfreithlon yn ardal y Trallwng a thu hwnt, ac mae'n dod wedi misoedd o waith caled."
"Rydyn ni'n cymryd pryderon o fewn ein cymunedau o ddifrif, ac rwy'n gobeithio y byddan y gweithredu yma heddiw yn tawelu eu meddyliau.
"Mae timau arbenigol dal ar y safle, yn ceisio cofnodi unrhyw dystiolaeth.
"Fe fydden i'n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon am werthu cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â'r heddlu er mwyn i ni allu gweithredu."