Gwaddol gwaith oes Merêd a Phyllis
- Cyhoeddwyd
Ddydd Llun 9 Rhagfyr 2019, byddai'r Dr Meredydd Evans wedi bod yn 100 oed.
Roedd Merêd yn arbenigwr ym maes cerddoriaeth werin Gymraeg, a bu wrthi, ynghyd â'i wraig Phyllis Kinney, am ddegawdau yn gwneud gwaith diwyd yn casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin.
Bellach, mae Archif Merêd a Phyllis yn rhan o Archif Gerddorol Gymreig Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'r casgliad yn cynnwys 150 bocs yn llawn o bapurau cerddorol a chardiau mynegai ar bob math o gerddoriaeth draddodiadol, yn ogystal â pheth o ohebiaeth a ffeiliau Merêd ar amryw bynciau gan gynnwys athroniaeth, llenyddiaeth ac ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg.
Mae'n ffrwyth llafur blynyddoedd o waith ymchwil gan y ddau. Ar bob cerdyn mynegai mae gwybodaeth drylwyr am yr alaw neu'r gân, gan gynnwys gwahanol fersiynau ohoni, o ba ardal mae hi'n dod yn wreiddiol, y llinell gyntaf a'r llawysgrif lle cafodd ei chofnodi.
Nawr, bwriad y llyfrgell yw i ddatblygu cronfa o gerddoriaeth werin yn seiliedig ar y gwaith ymchwil yma, a'i gwneud ar gael i bobl allu pori drwyddi.
Archif helaeth
"O'n ni'n falch iawn pan o'n i'n deall dymuniad Merêd a Phyllis bod eu harchif nhw'n dod i'r Llyfrgell Genedlaethol." meddai Nia Mai Daniel, Rheolwr Rhaglen yr Archif Gerddorol Gymreig.
"O'dd Merêd a'i wraig Phyllis wedi bod yn gweithio yn y Llyfrgell am flynyddoedd lawer. O'n nhw'n Ystafell Ddarllen y De yn eitha' aml yn ishte gyda'i gilydd yn ymchwilio ac weithie'n canu hyd yn oed dros y stafell ddarllen, ac wedi gwneud gwaith trylwyr iawn - gwaith oes, mewn gwirionedd - o ymchwil mewn i alawon gwerin a cherddoriaeth a llenyddiaeth yn ehangach."
"Mae cael cip ar yr archif yn brofiad rhyfeddol," meddai'r canwr gwerin Arfon Gwilym, sydd wedi cael y cyfle i bori yn y casgliad, "ac mae rhywun wirioneddol yn rhyfeddu at y gwaith caled.
"Pan es i yno, o'n i'n teimlo mod i eisiau misoedd, os nad blynyddoedd, i gael fy mhen rownd y cyfan. Ar ôl i mi fynd adre y diwrnod cynta', o'dd fy mhen i'n troi.
"Mae llawer iawn o'r papurau yn ymwneud ag Archif J Lloyd Williams - un o sefydlwyr y Gymdeithas Alawon Gwerin. Honna ydi'r archif bwysica' ohonyn nhw i gyd ym maes y traddodiad gwerin.
"Roedd J Lloyd Williams wedi gadael ei bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol, ac roedd angen rhoi trefn a chatalogio'r holl bapurau - dyna beth wnaeth Merêd."
'Partneriaeth wych'
Ond yn ôl Arfon, nid oes modd sôn am gyfraniad Meredydd Evans i'r traddodiad gwerin, heb sôn am gyfraniad Phyllis.
"Yn 2011 mi gyhoeddwyd Welsh Traditional Music, llyfr Phyllis Kinney, a hwnna ydi'r llyfr mwya' awdurdodol erioed ar draddodiad cerddorol Cymru, ac er mai Phyllis sydd wedi ei sgwennu o, mae hi wrth gwrs yn cydnabod ei dyled i Merêd, achos y peth ydi, oedden nhw'n bartneriaeth mor wych.
"O'dd o'n dod at y traddodiad fel un oedd wedi clywed y caneuon 'ma ar yr aelwyd, ac o'dd Phyllis yn dod at y peth fel cerddor proffesiynol, ond hefyd fel rhywun annibynnol a gwrthrychol.
"Roedd y ddau yn cyfrannu'r ddwy elfen oedd yn hanfodol bwysig."
Fe wnaeth Arfon gyfarfod Merêd gyntaf ddechrau'r 70au, a bu'r ddau mewn cysylltiad agos ar hyd y blynyddoedd. Cafodd Arfon weld â'i lygaid ei hun pa mor weithgar ac ymroddgar oedd y ddau wrth geisio diogelu'r caneuon gwerin yma.
"Yn y 10 mlynedd ola' (yn achos Merêd), bob tro roedd rhywun yn galw i Gwm Ystwyth, gan obeithio bod nhw adra, roedd y ddau bob tro yn gweithio - Merêd wrth ei ddesg yn ei lyfrgell, a Phyllis i fyny'r grisiau.
"Roedd gan y ddau gymaint o wybodaeth. Roedden nhw'n ymwybodol bod nhw'n brwydro'n erbyn amser, a'u bod nhw isho gymaint o'r wybodaeth yma i fod ar gael i unrhyw un ar eu holau nhw.
"Mi allai'r ddau fod wedi llacio a rhoi eu traed i fyny a mwynhau eu hymddeoliad, ond nid dyna'r math o bobl oedden nhw. Roedd ganddyn nhw gymaint o ymwybyddiaeth o werth y peth oedden nhw'n delio efo fo, ac isho gofalu fod hwnna ar gael i genedlaethau'r dyfodol.
"Yn amlwg, 'san nhw'm yn ei 'neud o oni bai ei fod o'n bleser, ond roedden nhw'n amlwg yn teimlo dyletswydd tuag at genedlaethau'r dyfodol.
"Allith rhywun ddim diolch digon iddyn nhw."
Angerdd tuag at gerddoriaeth
Mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru am 19:05 Ddydd Sul 8 Rhagfyr, Hela'r Hen Ganeuon, mae'r gantores Georgia Ruth yn trafod rhai o'r caneuon sydd i'w canfod yn Archif Merêd a Phyllis, ac yn cael clywed ambell un yn cael eu perfformio.
Yn ystod y rhaglen mae Eluned Evans, merch Merêd a Phyllis, yn hel atgofion am gyfnod y teulu yn byw yn America: "O'dd o'n agoriad llygad i Dad, oherwydd o'dd o mewn byd lle oedd 'na ganeuon soul, rhythm and blues, caneuon gwerin o'r wlad i gyd.
"Ac oedd y tŷ yn llawn trwy'r amser. Oedd 'na ganu caneuon gwerin, ond caneuon gwerin o bob cwr o'r byd, felly oeddwn i'n bersonol wedi'n magu gyda caneuon gwerin, ond nid caneuon gwerin Cymraeg.
"Doedd 'na ddim lot o Gymry Cymraeg yn Boston ar y pryd. Ond pan oedd unrhyw Gymro neu Gymraes yn dod i'r theatr neu rywbeth, mi fasa Mam a Dad yn mynd off am y noson, ac mi fasa 'na ganu caneuon gwerin, caneuon Cymraeg di-ri'.
"Dad yn g'neud hynny efo Richard Burton a Hugh Griffith yn Efrog Newydd un tro, yn fflat Lena Horne. O fewn dim, o'dd y tri ohonyn nhw yn canu caneuon gwerin. 'Swn i 'di licio bod yna...!"
Bu farw Meredydd Evans ar 21 Chwefror 2015, ac yn ôl Eluned, bu'n gweithio hyd y diwedd: "Gafodd Dad strôc aruthrol ac oedd Mam yn dod draw aton ni i ddweud fod o wedi cwympo, ac aethon ni draw yn syth.
"Dyna lle oedd Dad, wedi cwympo ar y llawr, ond yn ei law oedd ffolder carolau, felly tan yr eiliad ola' iddo fo fod yn ymwybodol, oedd o'n gweithio ar ganeuon gwerin a charolau.
"Ac roedd hynny'n gysur mawr i ni, bod o wedi bod yn gneud beth oedd yn rhoi diléit iddo fo, tan y funud ola'.
"O'n i mor falch fod o wedi bod yn g'neud rhywbeth agos at ei galon o."
Hefyd o ddiddordeb: