Tyllau mawr yn ymddangos ar gae chwarae dros nos

  • Cyhoeddwyd
llyncdwllFfynhonnell y llun, Matthew Murphey
Disgrifiad o’r llun,

Mae un twll ar gae chwarae yng Ngwaelod-y-Garth yn fwy na'r llall

Mae Cyngor Caerdydd yn ymchwilio ar ôl i ddau lyncdwll (sinkhole) ymddangos ar gae chwarae yn y ddinas dros nos.

Dywedodd llefarydd nad oedd modd cadarnhau beth achosodd y tyllau yng Ngwaelod-y-garth.

Ond fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael eu galw i "adroddiadau o lifogydd" fore Gwener.

Mae swyddogion asesu risg llifogydd y cyngor wedi'u hanfon i archwilio, ac mae staff priffyrdd yr awdurdod wedi cael gorchymyn i wneud yr ardal yn ddiogel.

Maen nhw bellach wedi rhoi tâp o gwmpas un cornel o'r cae pêl-droed er mwyn annog pobl i beidio mynd yno.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi cael eu galw am 05:47, a'u bod wedi cael gwared ar ddŵr, cyn gadael toc wedi 08:00.

Ffynhonnell y llun, Matthew Murphey