Pobl sydd am adael yr UE 'yn troi at Blaid Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae pleidleiswyr sy'n cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd "mewn nifer o etholaethau" yn symud i gefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl yr arweinydd Adam Price.
Yn siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Price y gall Plaid Cymru "llenwi'r bwlch" rhwng pleidleiswyr sy'n cefnogi gadael ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ystod diwrnodau olaf ymgyrch yr etholiad.
Dywedodd Mr Price bod "newid" wedi cymryd lle, a bod pleidleiswyr sy'n cefnogi gadael "yn sylweddoli mai'r unig obaith ar gyfer dyfodol Cymru" yw cefnogi ei blaid ef.
Dywedodd Nathan Gill, o'r Blaid Brexit, bod yr honiad yn "hollol ddi-sail".
Pan gafodd Mr Price ei holi am ba dystiolaeth sydd ganddo i gefnogi ei honiadau, dywedodd: "Rydw i'n cael trafodaethau gyda phobl ar draws Cymru ac rydw i'n sylwi bod pleidleiswyr sy'n cefnogi gadael yn sylweddoli mai'r unig beth fydd yn sicrhau newid gwirioneddol i Gymru yw os rydyn ni'n dod o hyd i'n llais yn yr etholiad yma."
Mae Plaid Cymru yn ymgyrchu am refferendwm arall ynglŷn ag Ewrop, a byddai'n cefnogi aros yn yr UE.
Byddai'r blaid yn bwriadu cadw Cymru yn yr UE fel cenedl annibynnol os fydd Brexit yn cael ei weithredu.
Yn siarad yng Nghyffordd Llandudno prynhawn Gwener, dywedodd Mr Price: "Rydym ni wedi cael ein trin yn wael gan lywodraethau San Steffan.
"Rydyn ni am roi'r gorau i'r esgeuluso yna yn yr etholiad yma, ac mae pobl Cymru a wnaeth bleidleisio i adael yn ogystal ag aros yn yr UE yn refferendwm 2016 yn ein cefnogi."
'Etholiad annarogan'
Ychwanegodd Mr Price: "Mewn etholiad rydych chi'n seilio'ch ymgyrch ar beth mae pobl yn dweud wrthych chi, ac mae pobl yn dweud wrtha'i bod nhw wedi cael digon o gael eu hesgeuluso gan bleidiau San Steffan.
"Fi byth wedi gweld etholiad mor annarogan ac mae nifer o bobl yn ansicr o bwy maen nhw'n mynd i bleidleisio drostyn nhw.
"Beth sy'n digwydd yn ystod dyddiau diwethaf yr etholiad yw bod pobl sydd heb gartref gwleidyddol yn dechrau dod o hyd i gartref newydd gyda Phlaid Cymru."
Pan ofynnwyd pam fyddai pleidleisiwr sy'n cefnogi gadael yn troi at Blaid Cymru, sy'n cefnogi aros, dywedodd Mr Price: "Fi'n credu bod pobl yn gwerthfawrogi ein gonestrwydd.
"Mae pobl yn anhapus iawn gyda'r Blaid Lafur gan fod nhw ddim yn fodlon dweud pa ochr maen nhw'n cefnogi."
Ond wrth ymateb i Mr Price, dywedodd Nathan Gill, un o ymgeiswyr Plaid Brexit: "Mae'r honiad yma gan Adam Price, bod pleidleiswyr sy'n cefnogi gadael hefyd yn cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad yma, yn hollol ddi-sail.
"Mae Plaid Cymru eisiau rhoi diwedd i ganlyniad democrataidd refferendwm 2016 a gorfodi Cymru i aros fel rhan o'r UE.
"Ar draws Cymru, mae pleidleiswyr sy'n cefnogi gadael yn teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu gadael lawr gan y prif bleidiau, yn cynnwys Plaid Cymru, oherwydd bod nhw wedi anwybyddu lleisiau pobl am y tair blynedd diwethaf.
"Plaid Brexit yw'r unig opsiwn realistig ar gyfer pleidleiswyr sy'n cefnogi gadael sydd eisiau gweld newid sylweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2019