Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-2 Barnsley
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Caerdydd i ennill o 3-2 yn eiliadau olaf y gêm yn erbyn Barnsley ddydd Sadwrn.
Daeth Caerdydd yn agos i fynd ar y blaen yn y 10 munud agoriadol ond fe aeth peniad Aden Flint heibio'r postyn o chwe llath.
Barnsley lwyddodd i sgorio yn gyntaf wedi 17 munud. Ergyd gan Conor Chaplin i gornel chwith y gôl wedi gwaith da gan Mike-Steven Bähre.
Cwta dri munud yn ddiweddarach roedd Caerdydd yn gyfartal ar ôl i Banbo Diaby sgorio i'w rwyd ei hun.
Tri munud fewn i'r ail hanner roedd Barnsley yn ôl ar y blaen, Lee Peltier y tro hwn yn sgorio i'w rwyd ei hun.
Gôl hwyr
Wedi 65 o funudau daeth Danny Ward ymlaen i Gaerdydd yn lle Gary Madine, a llwyddodd yr ymosodwr i wneud gwahaniaeth yn syth.
Wedi pas gan Lee Tomlin fe ergydiodd Ward i gornel isa'r rhwyd i unioni'r sgôr unwaith eto.
Gyda'r cefnogwyr yn disgwyl i'r gêm orffen yn gyfartal roedd un tro arall yn y gynffon.
Gydag eiliadau'n unig yn weddill fe beniodd Aden Flint y bêl i gyfeiriad Lee Tomlin ac fe ergydiodd hwnnw'n gywir heibio i Sahin-Radlinger yn y gôl i'r ymwelwyr i ennill y gêm.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Caerdydd wedi codi i'r wythfed safle yn y gynghrair.