Ailagor rheilffordd Dyffryn Conwy wedi gwaith
- Cyhoeddwyd

Mae rheilffordd Dyffryn Conwy wedi ailagor ar ôl i beirianwyr fod yn gweithio ar y ffordd am fwy na thair wythnos.
Cafodd y ffordd rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog ei gau ar 22 Tachwedd.
Roedd teithwyr yn defnyddio bysiau tra bod y rheilffordd ar gau.
Yn yr wythnosau diwethaf mae'r gweithwyr wedi bod yn gosod 600 o folltiau cerrig yn nhwnnel Ffestiniog. Ymhlith y gwaith arall maen nhw wedi bod yn gwneud mae rheoli llystyfiant.
Yn ôl Network Rail bydd llai o adegau pan fydd y ffordd yn cau yn annisgwyl.
Mae gwaith hefyd wedi ei wneud i adeiladu platfform newydd Dolgarrog yng Nghonwy sydd dal ar gau ar ôl i lifogydd ym mis Awst achosi difrod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2019