Rhybudd melyn o rew i rannau o'r gogledd a'r canolbarth

  • Cyhoeddwyd
rhybudd tywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o rew ar gyfer rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru.

Fe ddywedon nhw y gallai rhew ac eira, yn enwedig ar dir uchel, achos trafferthion i deithwyr.

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 21:00 nos Sadwrn ac 11:00 fore Sul.

Ymhlith yr ardaloedd allai gael eu heffeithio mae Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys.