Pryder am ddyfodol 229 o swyddi The Book People, Bangor

  • Cyhoeddwyd
The Book PeopleFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan The Book People siop ym Mharc Menai, Bangor

Mae cwmni The Book People - sydd â chanolfan yn ninas Bangor - wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r cwmni yn cyflogi cyfanswm o 348 o bobl, gyda 229 o'r rheiny yn gweithio yn y ganolfan ym Mangor.

Maen nhw wedi wynebu cystadleuaeth gref gan Amazon a manwerthwyr ar-lein eraill dros y ddegawd ddiwethaf.

Penodwyd PricewaterhouseCoopers (PwC) yn weinyddwr tra bod y cwmni, gafodd ei sefydlu yn 1988 yn Surrey, yn chwilio am brynwr.

Bydd y busnes yn parhau i fasnachu ac nid oes unrhyw gynlluniau i ddiswyddo unrhyw un o'r 348 o weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig, meddai PwC.

O ganlyniad, dylai cwsmeriaid dderbyn eu harchebion mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Mae'r cwmni'n gwerthu llyfrau, anrhegion, teganau a deunydd ysgrifennu ar-lein a thrwy gatalog, yn aml am brisiau gostyngedig.

Mae gan y cwmni drosiant blynyddol o £50m ac mae'n gwerthu mwy na 17 miliwn o lyfrau plant y flwyddyn, yn ôl PwC.