'Busnes fel arfer' chwe mis ar ôl datgan argyfwng hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Andrew Mabey
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr amgylcheddol yng Nghaerdydd yn gynharach eleni

Chwe mis ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhuddo o barhau gyda "busnes fel arfer".

Nid yw'r cyhoeddiad wedi arwain at unrhyw weithredu brys, yn ôl pwyllgor o Aelodau Cynulliad.

Ychwanegodd y pwyllgor bod un o gynlluniau datgarboneiddio'r llywodraeth yn cynnwys nifer o bolisïau oedd eisoes yn bodoli ers yn hir cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud.

Dywedodd y llywodraeth bod "cyfres o gynlluniau newydd i daclo'r argyfwng hinsawdd a cholled bioamrywiaeth" wedi eu lansio.

'Dim ond geiriau'

Fe gyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths argyfwng hinsawdd yng Nghymru ym mis Ebrill 2019, gan ddweud ei bod yn gobeithio y byddai'n sbarduno "ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol".

Ond yn ôl Mike Hedges, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, fe allai'r cyhoeddiad gael ei weld fel "dim ond geiriau".

Prif ganolbwynt yr ACau oedd craffu ar gynllun diweddar Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb: Cymru carbon isel', sy'n cynnwys 100 o bolisïau a chynigion er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Cododd y pwyllgor bryderon bod 76 ohonyn nhw eisoes yn bodoli ar draws adrannau'r llywodraeth, ac fe honnodd nad oedd gweinidogion yn gallu bod yn benodol ynglŷn â chost y cynigion na'r graddau y bydden nhw'n gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru.

Dywedodd ei fod yn ei chael hi'n anodd deall sut y gallai Llywodraeth Cymru asesu effaith na gwerth am arian ei pholisïau datgarboneiddio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Amgylchedd, Lesley Griffiths yn gobeithio sicrhau Cymru carbon niwtral gynted â phosib

Cododd yr adroddiad gwestiynau ynglŷn ag uchelgeisiau Cymru i gyrraedd beth sy'n cael ei adnabod fel allyriadau sero-net erbyn 2050 - sef peidio ag allyrru mwy o nwyon sy'n cynhesu'r hinsawdd na sy'n gallu cael ei amsugno gan goed, mawn neu dechnolegau newydd.

Nododd y pwyllgor bod ymgynghorwyr y llywodraeth gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU (CCC) yn credu nad oedd hyn yn "gredadwy" i Gymru ac yn hytrach, fe osodwyd targed o ostyngiad o 95% mewn allyriadau erbyn 2050.

Er hyn, mae Lesley Griffiths yn dweud ei bod hi eisiau mynd ymhellach.

Mae'r pwyllgor wedi galw arni i gyhoeddi cyngor newydd mae wedi gofyn amdano gan y CCC ar gyrraedd sero-net "mor fuan â phosib".

Dywedodd y pwyllgor bod gweinidogion angen bod yn "fwy gonest" ynglŷn â'r ffaith bod bron i 60% o allyriadau Cymru'n dod o ardaloedd sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru - gan gynnwys gorsafoedd pŵer mawr a diwydiant.

"Nid yw hyn yn ymwneud ag osgoi atebolrwydd, ond y gwrthwyneb," meddai.

"Dylai etholwyr Cymru allu deall llwyddiannau a methiannau Llywodraeth Cymru yn llawnach. Hefyd, dylent allu dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am ei pherfformiad mewn meysydd heb eu datganoli."

Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau wedi parhau ar draws Cymru - wedi datganiad arfywng hinsawdd y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd

Fe gafodd yr adroddiad ei ysgrifennu cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21, sy'n cynnwys mwy na £140m o arian cyfalaf newydd ar gyfer datgarboneiddio.

Ond mae'n cyfeirio at alwadau gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe am ragor - £991m - i gael ei ddosrannu er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, fe wnaeth Ms Griffiths ddisgrifio'r ffigwr yna fel un "gwbl afrealistig".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "cyfres o gynlluniau newydd i daclo'r argyfwng hinsawdd a cholled bioamrywiaeth" wedi eu lansio.

"Roedd ein cyllideb ddrafft yn cynnwys £140m o fuddsoddiad newydd, yn cynnwys cyllid ar gyfer trafnidiaeth, tai carbon isel, safleoedd natur pwysig, fforest genedlaethol a chynllun adfer tir mawn," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn ystyried yr argymhellion, gyda gobaith y byddai'r pwyllgor yn "cydweithio wrth i ni daclo efallai'r her fwyaf yn ein bywydau".