Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates 'heb dorri' cod ymddygiad

  • Cyhoeddwyd
Ken Skates
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken Skates wedi bod yn aelod o'r cabinet ers 2013

Roedd "diffyg yn y prosesau swyddogol" wrth rhoi arian i wasanaeth bysus yn etholaeth y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates.

Ond mae'r ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru wedi dod i'r casgliad bod "dim awgrym o amhriodoldeb" gan Mr Skates.

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakefod na chafodd rheolau gweinidogol "eu dilyn yn llawn" a bod dim digon o ofal wedi bod i osgoi ymddangosiad o wrthdaro buddiannau.

Ychwanegodd bod canllawiau i weinidogion a gweision sifil yn cael eu cryfhau, ac na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd.

Beth oedd yr achos?

Fe wnaeth Mr Skates, sy'n AC Llafur dros Dde Clwyd, gyfeirio'i hun am ymchwiliad oherwydd y posibilrwydd ei fod wedi torri'r rheolau wrth ymdrin â chyllid ar gyfer gwasanaeth bysus yn ei etholaeth ei hun.

Er i'r ymchwiliad - a orchmynwyd gan y prif weinidog - ganfod nifer o fethiannau yn y broses, daeth Mr Drakeford i'r casgliad na chafodd y cais i ariannu llwybr bys rhif 5 rhwng Llangollen a Wrecsam ei gyflwyno i Mr Skates "yn unol â'r gweithdrefnau arferol".

Ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Russell George AC ei fod yn "frawychus" na chafodd prosesau eu dilyn yn llawn.

Ychwanegodd: "Mae'n glir bod yr achos yma wedi dangos methiannau difrifol ym mhrosesau swyddogol Llywodraeth Cymru, ac mae angen dysgu gwersi o hyn."