Rhybudd i deithwyr trenau sy'n camymddwyn dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Nadolig: 'Teithwyr trenau'n anghofio sut i fihafio'

Mae teithwyr ar draws Cymru yn cael eu hannog i barchu cyd-deithwyr dros gyfnod y Nadolig mewn ymgyrch i gadw pobl yn ddiogel dros yr ŵyl.

Mae'r cyfnod cyn y Nadolig yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau, sy'n amrywio o bobl yn syrthio, i droseddau mwy difrifol.

Ar gyfartaledd, mae 25 digwyddiad y dydd drwy'r DU dros yr ŵyl - dwywaith cymaint o gymharu â'r misoedd blaenorol.

Ym mis Rhagfyr 2018 yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, cafodd 30 eu harestio, 83 eu holi, gyda dros 100 yn cael eu taflu allan.

Daw'r rhybudd wrth i Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ddechrau ar eu hymgyrch fwyaf erioed ar y cyd.

'Effaith ar gannoedd o deithwyr'

Yn ystod yr wythnosau cyn 'Gwener Gwallgo' eleni - 20 Rhagfyr - mae nifer o ddigwyddiadau eisoes wedi cael effaith ar wasanaethau yn ôl Ioan Jenkins, Cyfarwyddwr Datblygu Trafnidiaeth Cymru.

"Bu'n rhaid i ni atal dros 200 o bobl rhag parhau â'u taith yng Nghaerdydd ddydd Gwener diwethaf oherwydd doedden ni ddim yn credu eu bod hi'n ddiogel iddyn nhw deithio," meddai.

"Ddoe, welon ni bod 27 o drenau wedi cael eu heffeithio ar ôl digwyddiad treisgar ar y rhwydwaith. Felly mae'n cael effaith yn y pen draw ar gannoedd o deithwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ioan Jenkins o gwmni Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw eisoes yn atal pobl ar drenau

Gan ganolbwyntio ar ddyddiau Gwener a Sadwrn drwy gydol mis Rhagfyr, bydd ymgyrch Genesis yn arwain at gynnydd yn niferoedd y swyddogion ar y trenau ac yn y gorsafoedd.

Bydd hefyd heddlua cudd er mwyn targedu problemau fel ymddygiad gwrth-gymdeithasol, dwyn, ac anrhefn sy'n deillio o feddwdod.

Mae'r ymgyrch yn anelu i atal trosedd a rheoli'r bobl sydd wedi yfed gormod rhag teithio, yn ogystal â chynnig hyder, cefnogaeth a chyngor i deithwyr eraill.

'Mas unwaith y flwyddyn'

Yn ôl y Sarjant Simon Livsey, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.

"Dwi'n credu fod mwy o bobl erbyn hyn yn mynd mas unwaith y flwyddyn yn unig, a hynny dros gyfnod y Nadolig," meddai.

"Maen nhw wedi gorffen gwaith, yn mynd mas, yn yfed gormod o lawer ac yna'n cael trên i fynd adre' ac yn anghofio shwt i ymddwyn.

"Mae'n ardal gyfyng, mae'r trên yn brysur iawn dros gyfnod yr ŵyl, ac mae 'na beryg y gallech chi gwympo oddi ar y trên, rhwng y platfform, neu hyd yn oed ar y traciau eu hunain.

"Dwi'n credu fod pobl yn anghofio shwt i fihafio wedi iddyn nhw yfed."