Cynulliad yn wynebu bil o £4m i newid ffenestri Tŷ Hywel

  • Cyhoeddwyd
Tŷ HywelFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tŷ Hywel yn eiddo i Equitix Tiger English LP o Lundain

Mae'r corff sy'n rheoli'r Cynulliad yn ystyried newid ffenestri ar gost o £4m yn y swyddfeydd lle mae'n denant.

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad fod gan "nifer gynyddol o'r ffenestri ddiffygion" yn Nhŷ Hywel, drws nesaf i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Ychwanegodd bod "lleoliad yr adeilad mewn amgylchedd arfordirol wedi arwain at oes weithredol lai" ar gyfer y ffenestri 28 oed.

Mae Tŷ Hywel yn cael ei rentu tra bod adeilad y Senedd, sy'n cynnwys y Siambr, yn eiddo i'r Cynulliad.

Mae adeilad Tŷ Hywel, sy'n gartref i swyddfeydd ac ystafelloedd pwyllgor, yn eiddo i Equitix Tiger English LP o Lundain, partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd gyda Thŷ'r Cwmnïau ym mis Rhagfyr 2018.

'Y ffenestri mewn cyflwr gwael'

Yn ôl adroddiad cyllideb y comisiwn, mae gan ffenestri o'r math yn Nhŷ Hywel oes weithredol ddisgwyliedig o ryw 25-35 mlynedd ond "mae lleoliad yr adeilad mewn amgylchedd arfordirol wedi arwain at oes weithredol lai a welwyd trwy sawl arolwg annibynnol a gynhaliwyd er 2015.

"Mae'r arolygon wedi nodi bod y ffenestri mewn cyflwr ffisegol gwael a bod perfformiad thermol yr un mor wael," meddai'r adroddiad.

"Mae gan nifer gynyddol o'r ffenestri ddiffygion ac ni ellir cael rhannau newydd i wneud gwaith atgyweirio mwyach."

Mae'n egluro bod astudiaeth ddichonoldeb fanwl yn 2019-20 wedi nodi cost ddangosol o £4m ar gyfer y rhaglen gyfan ac mae "opsiynau cyllido yn cael eu hystyried".

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlwyd Comisiwn y Cynulliad i reoli'r sefydliad yn 2007

Gan egluro pam fod y comisiwn fel tenantiaid, yn hytrach na'r landlord, yn gyfrifol am y gwariant, dywed y comisiwn: "Yn rhan o'r cytundeb prydles atgyweirio ac yswirio llawn ar gyfer Tŷ Hywel, mae'n ofynnol i'r Comisiwn gynnal a chadw'r adeilad mewn cyflwr da, gan gynnwys gosod eitemau newydd yn lle eitemau sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes fel boeleri, drysau a ffenestri."

Yn ystod dadl ar gyllideb y comisiwn yn y Senedd fis diwethaf fe wnaeth y comisiynydd sy'n gyfrifol am y gyllideb a llywodraethu, yr AC Ceidwadol Suzy Davies gydnabod "o ran y prosiect ffenestri, gwn fod hyn wedi peri syndod, efallai, i rai o Aelodau'r Cynulliad, ond nid oedd hynny byth am fod yn rhad".

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad wrth y BBC: "Y Comisiwn newydd fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â'r gwaith yn y chweched Senedd [sy'n dechrau ar ôl etholiad 2021] a bydd hyn yn cynnwys penderfyniad ynghylch gwariant a chyfnod y prosiect er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian a mynd i'r afael â phryderon ynghylch cynaliadwyedd."

Mae'r comisiwn, sydd â chyllideb £61.4m ar gyfer 2020-21, hefyd wedi cadarnhau mai "amcan hirdymor" yw "sicrhau perchnogaeth ar Dŷ Hywel rhywbryd yn y dyfodol".