Adolygiad wedi nam cyfrifiadurol trên ar Lein y Cambrian

  • Cyhoeddwyd
Map Lein Arfordir y CambrianFfynhonnell y llun, RAIB
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y trên dan sylw'n teithio o Fachynlleth i Bwllheli

Mae'r corff sy'n gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd wedi gorchymyn adolygiad cynhwysfawr yn dilyn nam cyfrifiadurol peryglus ar un o reilffyrdd y gogledd.

Eisoes mae ymchwiliad wedi datgelu bod problemau system reoli gyfrifiadurol wedi achosi i drên ar Lein Arfordir y Cambrian yng Ngwynedd deithio at groesfan, ddwy flynedd yn ôl, bron i deirgwaith y cyfyngiad cyflymder.

Oherwydd methiant i ddanfon gwybodaeth i'r gyrrwr, roedd y trên yn teithio ar gyflymder o 50 mya, pan fo'r cyflymder uchaf yn 19 mya.

Dywed Network Rail eu bod yn edrych i gyflwyniad y meddalwedd, sy'n "hanfodol" i sicrhau diogelwch.

'Gwersi pwysig'

Roedd yna nifer o argymhellion i sicrhau gwelliannau yn adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB).

Yn yr adroddiad hwnnw, dywedodd y prif arolygydd damweiniau rheilffordd, Simon French, bod neb oedd yn rhedeg y rheilffordd pan ddigwyddodd ddamwain, ar 20 Hydref 2017, â dim syniad bod unrhyw beth o'i le.

Roedd angen i'r diwydiant ddysgu "gwersi pwysig" o'r ymchwiliad, meddai.

Ychwanegodd bod cyfrifiaduron yn gwneud cyfraniad "gwerthfawr", roedd yna hefyd achosion o darfu ar rai gwasanaethau, gan gynnwys y digwyddiad yng Ngwynedd, "oedd â photensial i fod yn beryglus".

Mewn ymateb, dywedodd Network Rail wrth BBC Cymru eu bod yn "cymryd canfyddiadau adroddiad yr ymchwiliad o ddifrif", ac "yn adolygu prosesau cyfredol cyflyno meddalwedd ddiogelwch gymhleth hanfodol".

Ffynhonnell y llun, RAIB
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r system arbrofol yn danfon wybodaeth i sgrîn yng nghab gyrrwr y trên

Roedd y problemau'n ymwneud â thechnoleg ERTMS (European Rail Traffic Management System), sydd i fod i gael ei ymestyn i rannau eraill o'r DU, ac sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio eisoes ar lein Thameslink a'r lein orllewinol i Faes Awyr Heathrow.

Daeth adroddiad yr RAIB i'r casgliad fod data cyfyngiadau cyflymder dros dro heb eu danfon i drenau wrth i system gyfrifiadurol gael ei aildanio'r noson gynt.

Roedd sgrin ystafell reoli ym Machynlleth yn dangos, ar gam, bod y trenau wedi derbyn y wybodaeth ddiogelwch gywir.

Ond fe deithiodd trên 08:52 o Fachynlleth i Bwllheli rhwng Bermo a Llanaber ar o gwmpas 50 mya mewn ardal hyd ar 19 mya - cyfyngiad a fu mewn grym ers 2014 er mwyn sicrhau digon o rybudd i'r cyhoedd bod trên yn dynesu.

Cofnododd gyrrwr y trên bod rhywbeth o'i le gyda'r wybodaeth ar ei sgrîn gyfrifiadurol, a dyna pryd y daeth i'r amlwg i dechnegydd yn yr ystafell reoli bod holl drenau lein y Cambrian heb gael y wybodaeth gywir.

Bu'n rhaid i yrwyr a signalwyr ddefnyddio cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig am rai oriau er mwyn parhau â'r gwasanaeth tra bo'r technegwyr yn ceisio ailgychwyn y system.

Nododd Network Rail ar ôl cyflwyno'u hadroddiad bod "prosesau cyflwyno meddalwedd ddiogelwch wedi symud ymlaen ers prosiect [Rheilffordd] y Cambrian.

"Mae'r gwersi a ddysgwyd o'r digwyddiad yma wedi eu hystyried yn ofalus iawn yn nhermau eu haddasrwydd ar ein rhwydwaith.

"Mae prosesau wedi cael, ac yn parhau i gael, eu hadolygu a'u diweddaru yn ôl yr angen i atal y fath senarios."