Storm Brian: Gwyntoedd yn achosi difrod
- Cyhoeddwyd

Pobl yn gwylio'r tonnau uchel ym Mhorthcawl
Mae gwyntoedd cryfion wedi achosi difrod mewn mannau ar hyd yr arfodir, a thrafferthion i deithwyr.
Mae'r gwyntoedd wedi cyrraedd cyflymdra o 78mya, ac mae rhybudd y dwyddfa dywydd y parhau mewn grym.
Bydd y rhybudd melyn, dolen allanol ar gyfer rhannau helaeth o'r wlad mewn grym tan hanner nos nos Sadwrn.
Y llanw'n codi'n beryglus o uchel yn Aberaeron fore Sadwrn
Am 17:00 roedd tua 500 o gartrefi heb gyflenwad trydan, yn bennaf yng Nghasnewydd ac yn Sir Benfro. Yn gynharach yn y dydd roedd tua 1750 o gartrefi wedi colli eu cyflenwad am gyfnod.
Mae'r gwasanaethau fferi rhwng Abergwaun a Rosslare wedi eu canslo am y tro.
Roedd trafferthion ar yr M4 hefyd - mae'r heddlu wedi cau pont Llansawel ger Castell Nedd oherwydd peryglon y gwynt.
Cau rheilffordd
Mae rheilffordd y Cambrian, rhwng Aberystwyth, Pwllheli a'r Amwythig wedi cau.
Yn ol Trenau Arriva Cymru mae'r storm wedi achosi newidiadau mawr i amserlenni eu gwasanaethau, gan fod cyfyngiadau cyflymder yn cael eu gweithredu ar ran helaeth o'r rhwydwaith yng Nghymru.
Ym Mhontycymer, Caerffili, mae trên wedi taro yn erbyn coeden. Penderfynwyd cau y lein i gyfeiriad Glyn Ebwy am gyfnod yn dilyn y digwyddiad. Does dim adroddiadau am unrhyw anafiadau yn dilyn y gwrthdrawiad.

Difrod ar y prom yn Aberystwyth

Cofnodwyd y gwyntoedd cryfa' yn Aberdaron ac yng Nghapel Curig gyda chyflymdra o 78mya (125km yr awr).
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi saith rhybudd llifogydd, dolen allanol yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a naw rhybudd ar draws Cymru i fod yn ofalus o lifogydd.
Brynhawn Sadwrn cofodd y rhybudd llifogydd ar gyfer afon Conwy ei uwchraddio, sy'n golygu y gallai llifogydd fod yn debygol yn ardal Trefriw.
Ychwanegodd Cyngor Ceredigion y byddai'r promenâd yn Aberystwyth a'r cei yn Aberaeron ar gau am tua thair awr o gwmpas 21:42, ar adeg y llanw uchel.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n annog pobl i gadw draw o'r arfordir, ac mae Pont Cleddau yn Sir Benfro ar gau i gerbydau uchel.

Difrod i swyddfa'r harbwrfeistr yn Ninbych y Pysgod fore Sadwrn
Mae Network Rail wedi rhybuddio teithwyr i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw, gan eu bod yn disgwyl oedi i wasanaethau.
Fe fydd gwasanaeth bws ar gael yn lle'r trenau rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog oherwydd difrod yn sgil y tywydd gwael.

Mae Network Rail wedi gofyn i bobl sy'n byw ger rheilffyrdd i sicrhau bod dodrefn gardd, offer a thrampolinau yn ddiogel
Mae'r cwmni hefyd wedi gofyn i bobl sy'n byw ger rheilffyrdd i sicrhau bod dodrefn gardd, offer a thrampolinau yn ddiogel ac nad ydynt mewn perygl o gael eu chwythu ar y traciau.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y dylai pobl gadw golwg ar y rhagolygon ac unrhyw rybuddion pellach sy'n cael eu cyhoeddi.
Dywedodd Richard Hancox o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Fel bob amser, rydym yn eich cynghori i gadw'n glir o'r arfordir, ac o unrhyw bier neu bromenâd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd gallai tonnau mawr a thywydd stormus eu gwneud yn llefydd hynod o beryglus."
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gwybod fod pobl yn cael eu temtio i geisio tynnu lluniau o'r stormydd hyn, ond dyw hi wir ddim werth peryglu'ch bywyd.
"Gallai llifogydd a dŵr sy'n tasgu o'r môr eich taro chi i'r llawr yn haws nag y byddech chi'n ei ddychmygu, ac fe all tonnau mawr daflu malurion i'r lan."
Cafodd gwyntoedd o hyd at 90mya eu cofnodi wrth i Storm Ophelia daro rhannau o'r wlad ddydd Llun.
Fe arweiniodd Ophelia at broblemau ar ffyrdd, rheilffyrdd ac mewn porthladdoedd, cafodd nifer o adeiladau eu difrodi, ac roedd miloedd o gartrefi heb drydan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017