Colli pwysau 'wedi gweddnewid' bywyd Huw Edwards
- Cyhoeddwyd
Mae'r darlledwr Huw Edwards wedi datgelu sut y bu'n teimlo'n "gorfforol ac yn feddyliol yn y lle anghywir" cyn dechrau cadw'n heini a cholli pwysau.
Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Meistri ar Radio Cymru fe ddisgrifiodd prif gyflwynydd BBC News at Ten sut y mae gwella ei ffitrwydd wedi "gweddnewid" ei fywyd.
Yn y rhaglen, sy'n cael ei darlledu ar 27 Rhagfyr, mae'n dweud iddo fynd ati i golli pwysau "achos bo' fi'n teimlo'n afiach".
"Gyda llaw, roedd y plant yn gallu gweld hynny, felly ro'n nhw'n gweld bod e'n beth positif i wneud," meddai'r newyddiadurwr, a gafodd ei fagu yn Llangennech, ger Llanelli.
"Mae'r ddelwedd yn gallu bod yn niwsans achos mae papurau newydd yn ysgrifennu bob math o nonsens ynglŷn â'r peth.
"Ond y gwir yw mewn job fel hyn lle ma' dyn ddim yn cael lot o amser sbâr, mae cadw'n ffit yn bwysig.
"Wy' wedi dysgu hefyd fod bod yn ffit yn golygu bod dyn yn fwy miniog o safbwynt meddwl, ac yn iachach o safbwynt meddwl. I fi mae hynny wedi bod yn agoriad llygad."
Dywedodd Mr Edwards iddo gael help Clinton McKenzie, cyn-focsiwr proffesiynol, wrth fynd ati o ddifri' i gadw'n heini.
"O'n i'n pwyso gormod, o'n i'n rhy drwm, ac felly o'n i ddim yn hapus gyda hynny.
"O'n i ddim yn hapus â 'ngolwg i'n hunan, ac yn deall hefyd 'mod i ddim yn bod yn deg â 'nghorff fy hunan o safbwynt iechyd, ac wedyn gath hynny effaith arna i yn feddyliol, sef 'mod i ddim yn teimlo'n grêt am fy hunan.
"Jyst yn teimlo'n weddol isel a bod yn onest."
"Fe wnaeth e weddnewid y ffordd o'n i'n byw a bod yn onest.
"Mae hynny'n swno'n eitha' dramatig, ond mae e'n wir.
"Nes i newid patrwm yr wythnos fel 'mod i'n neud y sesiynau yma a dangos ymroddiad, ac roedd e'n mynnu bo' fi'n dangos ymroddiad.
"Nes i fe achos o'n i ishe newid ychydig, ac o'n i'n teimlo'n well am fy hunan achos o'n i wedi colli pwysau.
"Wy'n cyfadde' o'dd angen i fi newid rhywfaint ac mae e wedi rhoi lot mwy o egni i fi ac wy'n llawer mwy hapus yn mynd o gwmpas fy musnes. Ac, felly i fi, fel mae'r Sais yn gweud - result!
"Mae pobl yn ysgrifennu pob math o nonsens amdano fe, ac mae'r tro cynta' i fi roi'r fersiwn gywir gyda llaw, ond dyna'r rheswm. Fi'n credu o'dd e'n angenrheidiol i fi."
Bydd rhaglen Meistri - Huw Edwards yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru ddydd Gwener, 27 Rhagfyr am 18:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2018