Ateb y Galw: Huw Edwards

  • Cyhoeddwyd
Huw Edwards

Y newyddiadurwr Huw Edwards sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Wyre Davies wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dringo'r grisiau serth yn nhŷ Mamgu ym mhentref Blaengarw ger Penybont ar Ogwr. Roeddwn tua 3 oed. Roeddem yn byw gyda hi tra'n aros am dŷ yn Llangennech.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Ateb hawdd a pharod. Debbie Harry. Roedd gen i sawl poster enfawr ohoni yn fy ystafell wely. Mae hi'n 72 nawr!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Byddaf yn teimlo cywilydd bob tro byddaf yn methu rhoi arian i rywun digartref ar strydoedd Llundain. Rwyf yn ceisio rhoi yn rheoliadd ond nid yw'n bosib bob tro. Byddaf yn teimlo pwl o gynddaredd bod pobl yn ddigartref yn un o wledydd mwyaf cyfoethog y byd.

Debbie Harry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Debbie Harry yn parhau i berfformio, a chreu argraff, er ei bod hi bellach yn ei 70au

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Rwyf yn llefain (nid 'crïo'!) yn reit aml a dweud y gwir. Gall hen luniau o'r teulu, darn o farddoniaeth neu gerddoriaeth greu emosiwn ynof yn hawdd.

Y tro olaf oedd mewn gwasanaeth carolau yn Llundain pan glywais un o adnodau gorau'r Beibl ('A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni... yn llawn gras a gwirionedd.') Mae'r adnod bob amser yn fy atgoffa o wasanaethau Nadolig fy mhlentyndod yn Llangennech, a byddaf yn llawn emosiwn yn cofio.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, gormod o lawer. Colli fy nhymer yn rhy hawdd. Rhegi. Bod yn ddiamynedd. Digon?

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mynwent Llanddewi Aber-arth lle mae Dad yn gorffwys, a nifer o Edwardiaid eraill hefyd, gan gynnwys Mamgu a Dadcu Aber-arth, a Mamgu Picton, sef fy hen famgu. Mae'n fan arbennig o hardd yn edrych dros ddisgleirdeb Bae Ceredigion. Ar ddiwrnod clir cewch weld hyd at Ben Llŷn a mynyddoedd Eryri.

Mynwent Llanddewi Aber-arthFfynhonnell y llun, Huw Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae golygfa hyfryd o fynwent Llanddewi, Aber-arth, ble mae Hywel Teifi Edwards a nifer o berthnasau eraill Huw yn gorffwys

Y noson orau i ti ei chael erioed?

O ran gwaith, rhaglen ganlyniadau Refferendwm Cymru 1997. Noson a hanner. A dylwn nodi i mi sylwebu ar seremoni agoriadol Gemau Olympaidd London 2012 hefyd. 27 miliwn yn gwylio!

O ran bywyd teulu, rhaid mai fy mhenblwydd yn 50 oed oedd y peth gorau, y teulu cyfan gyda mi a llu o ffrindiau hefyd. Doedd Dad ddim gyda ni erbyn hynny, ond byddai wedi bod wrth ei fodd.

line

O Archif Ateb y Galw:

line

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penderfynol. Uchelgeisiol. Drygionus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Doctor Zhivago yw'r ffilm. Hoffi rhamant y ffilm a'r gerddoriaeth fendigedig.

Y nofel Il Gattopardo gan Lampedusa yw'r llyfr. Dyfyniad gwych ynddo: Se vogliamo che tutto rimanga come è, bisogna che tutto cambi. ('Er mwyn i bob dim aros yr un peth, rhaid i bob dim newid'.) Dau glasur bendigedig.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

David Lloyd George, heb os. Angen gofyn ambell gwestiwn plaen. Ond mae'n arwr i mi yn rhinwedd ei allu gwleidyddol fel Cymro ym mherfedd y Sefydliad Seisnig, ei frwydr fawr yn erbyn Tŷ'r Arglwyddi, a'i gyfraniad fel radical cymdeithasol.

David Lloyd George
Disgrifiad o’r llun,

Diod gyda David Lloyd George: Byddai Huw wrth ei fodd yn cael sgwrs â'r unig Gymro Cymraeg i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Yr wyf yn ffieiddio afocados â chas perffaith. Bwyd y Diafol ei hun. Yr ail yw'r tomato melltigedig. Anodd iawn, os nad amhosib eu hosgoi. Onid yw "pawb" yn eu hoffi meddech chi? Wel nac ydynt wir!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael pryd o fwyd gwych yn Ffrainc (fy hoff wlad ar ôl Cymru) gyda'r teulu i gyd a rhoi diolch am holl fendithion bywyd.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Nansi Richards yn canu Mor fawr wyt Ti - mae'n fy atgoffa o Mamgu Blaengarw (dyna oedd ei hoff emyn) a byddaf bob amser yn ddagreuol yn gwrando arni.

Huw Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw wedi perffeithio ei ystum ar ôl blynyddoedd o ddarlledu'r newyddion ar News at 10

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Plated mawr o wystrys i ddechrau gyda photel o Chablis. Stecen a saws arnaise gyda salad gwyrdd. Cacen gaws plaen yn null Efrog Newydd. Paradwys.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Prif Weinidog Cymru. Angen gwneud rhai penderfyniadau radical ar fyrder am gyfeiriad Cymru, yr economi, addysg, y cyfryngau, a'r iaith Gymraeg.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Beti George