Ystyried dirwyo perchnogion ceir am daflu sbwriel
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r gyfraith gael ei newid yng Nghymru er mwyn ei gwneud yn haws i gosbi pobl sy'n taflu sbwriel o'u cerbydau.
Yn y tair blynedd ddiwethaf mae cynghorau Cymru wedi gwario miliynau o bunnoedd yn casglu sbwriel oddi ar ochr ffyrdd.
Ond ychydig iawn o bobl sy'n cael eu herlyn am y drosedd mae'r heddlu'n dweud sy'n "amhosib" i'w phlismona a pheryglus i'w glanhau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newid y gyfraith er mwyn ei gwneud yn haws darganfod a dirwyo troseddwyr.
Gallai olygu mai perchennog cerbyd fyddai'n cael ei ddirwyo am daflu sbwriel, dim ots os nad nhw wnaeth lygru neu os nad oedden nhw yn y cerbyd ar y pryd.
Cynghorau sy'n gyfrifol am lanhau ffyrdd, gyda Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am rhai ffyrdd penodol fel yr M4 a rhan o'r A55.
Ym Merthyr Tudful fe wnaeth y cyngor wario dros £2.6m ar lanhau sbwriel o ochr ffyrdd rhwng Mawrth 2015 a Mawrth 2019.
Er hyn, ni chafodd yr un person yn y sir ddirwy am daflu sbwriel allan o gerbyd yn yr un cyfnod.
Beth yw'r broblem?
Mae cynghorau'n dirwyo perchnogion cerbydau gyda hysbyseb cosb benodedig os ydyn nhw'n credu bod rhywun wedi llygru, ond mae problemau'n codi os nad ydyn nhw'n talu neu'n dadlau ynglŷn â phwy daflodd y sbwriel.
Dan y gyfraith bresennol mae'n rhaid i'r cyngor fod wedi gweld y person yn llygru, a gallu profi pa berson yn y cerbyd oedd yn gyfrifol.
Am nad oes cyfrifoldeb cyfreithiol ar berchennog y cerbyd i ddweud pwy wnaeth daflu'r sbwriel, dydy rhai cynghorau ddim yn defnyddio'r pwerau i'w dirwyo o gwbl.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych nad oedd wedi dirwyo unrhyw un yn y tair blynedd ddiwethaf am fod "erlyn yr unigolion sy'n cael eu hamau yn cyflwyno problemau anorchfygol o ran tystiolaeth".
Beth yw'r newidiadau?
Mae Llywodraeth Cymru eisiau rhoi mwy o bŵer i gynghorau fel y gallan nhw ddirwyo perchennog y cerbyd sy'n llygru.
Yn wahanol i hysbyseb cosb benodedig - dirwy droseddol - dirwy sifil fyddai hon, ac ni fyddai angen i'r cyngor allu profi pwy daflodd y sbwriel.
Fe allai'r perchennog orfod talu'r ddirwy hyd yn oed os nad oedden nhw yn y cerbyd ar y pryd, ac mae system debyg eisoes ar waith yn Llundain.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod dirwyon yn un rhan o'r datrysiad a bod angen newid ymddygiad pobl sy'n taflu sbwriel.
"Rydyn ni'n datblygu cynllun newydd i atal sbwriel yng Nghymru ac yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol a'r trydydd sector i fynd i'r afael â'r broblem," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2018