Sbwriel a ffyrdd yn brif destun cwynion i gynghorau sir
- Cyhoeddwyd
Trefniadau casglu sbwriel a chyflwr ffyrdd sy'n denu'r nifer fwyaf o gwynion am y gwasanaethau y mae cynghorau sir Cymru yn eu cynnig, wrth i'r cyhoedd ddisgwyl i'r awdurdodau lleol wneud mwy er gwaethaf toriadau ariannol.
Dywedodd y 22 awdurdod lleol wrth BBC Cymru mai dyna'r ddau faes sydd wedi denu'r nifer fwyaf o gwynion yn y pum mlynedd diwethaf.
Y rheswm dros hynny, meddai seicolegwyr, yw'r ffaith eu bod yn broblemau sy'n amlygu eu hunain yn ddyddiol ym mywydau pobl.
Serch hynny, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn dweud bod "mwyafrif helaeth" y cyhoedd yn fodlon gyda gwasanaethau cynghorau sir.
Cyfrifoldebau
"Mae pobl yn ymateb i newid ffisegol maen nhw'n ei weld," meddai'r Athro James Downe, cyfarwyddwr ymchwil y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru.
"Mae cynnydd graddol wedi bod yn nisgwyliadau'r cyhoedd. Mae pobl yn disgwyl i gynghorau weithredu fel un o gyrff mwya'r sector preifat.
"Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru, pob un â gwahanol gryfderau a gwendidau.
"Mae toriadau sylweddol wedi bod yn y meysydd cynllunio, gwastraff a phriffyrdd a ni fyddai'n syndod petai 'na gynnydd mewn cwynion am y meysydd hynny."
Yn ôl yr Athro Downe, canran fach o gyllidebau'r cynghorau sy'n dod o dreth y cyngor. Eto i gyd, meddai, mae pobl yn teimlo eu bod yn talu mwy tra bod rhai gwasanaethau'n gwaethygu.
Ond fe awgrymodd fod y cyhoedd eu hunain yn achosi rhai o'r problemau maen nhw'n cwyno amdanyn nhw.
"Os ydych chi'n taflu sbwriel ar y stryd neu ddim yn defnyddio canolfannau gwastraff, mae'n rhaid i'r cyngor wneud y gwaith clirio, felly mae gan y cyhoedd gyfrifoldebau hefyd."
Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud hi'n haws i bobl cwyno yn ôl Dr Martin Graff, darllenydd seicoleg ym Mhrifysgol De Cymru.
"Mae ar gael drwy'r adeg. Rydych yn rhannu rhywbeth gyda ffrindiau ac mae'n atgyfnerthu syniadau," meddai.
"Mae pobl bron yn creu eu newyddion eu hunain nawr. Mae pobl yn cwyno ac yn crybwyll busnesau ar wefannau cymdeithasol."
Gwella gwasanaethau
Ond yn ôl Daniel Hurford, pennaeth polisi CLlLC, mae ystadegau'n dangos bod nifer o wasanaethau cyngor yn gwella, ac fe awgrymodd arolwg gan Lywodraeth Cymru bod mwyafrif pobl Cymru yn fodlon gyda gwasanaethau cyngor.
"Mae'n anochel bod effaith llymder a thoriadau ariannol i rai gwasanaethau yn effeithio ar nifer y cwynion," meddai.
"Gwasanaethau fel priffyrdd, trafnidiaeth a gwastraff sy'n tueddu i ddenu'r nifer fwyaf o gwynion gan mai dyna'r gwasanaethau mwyaf amlwg sy'n cael eu defnyddio'n fwyaf cyson.
"Er enghraifft, fe allai cyngor dderbyn sawl cwyn gan nifer o yrwyr ynglŷn â'r un twll yn y ffordd.
"Mae cynghorau'n defnyddio cwynion i helpu gwella gwasanaethau, nid yn unig mewn ymateb i ddigwyddiad penodol ond er mwyn gweld os oes modd gweithredu gwelliannau ehangach."