Camlas Abertawe ar fin ailagor y filltir gyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwyr yng Nghwm Tawe sydd wedi bod yn ceisio diogelu dyfodol camlas hanesyddol ers 40 mlynedd yn agos at gyrraedd carreg filltir bwysig.
Ar ôl sicrhau grantiau o bron i £400,000, mae'r gwaith o glirio bron i filltir o'r gamlas rhwng Clydach a Threbannws bron wedi'i gwblhau.
Mae peiriannau wedi bod yn tynnu degawdau o faw o waelod Camlas Abertawe, ac fe fyddan nhw'n symud digon o fwd i lenwi 8,500 bath.
Y nod erbyn diwedd Ionawr ydy ailagor milltir o'r gamlas, gyda'r gobaith o ddenu ymwelwyr i'r ardal.
Yn ei anterth roedd y gamlas yn 16 milltir o hyd ac yn cludo dros 250,000 tunnell o lo pob blwyddyn o ben uchaf Cwm Tawe i weithfeydd copr Hafod yn Abertawe.
Ond daeth oes y gamlas i ben gyda dyfodiad y rheilffyrdd, ac erbyn yr 1960au cafodd rhannau o Gamlas Abertawe eu gorchuddio gan goncrid a tharmac yn dilyn pryder am effaith budreddi'r gamlas ar iechyd y cyhoedd.
Gweithio ers 1981
Mae Cymdeithas Camlas Abertawe wedi bod yn gweithio ers 1981 er mwyn adfer cymaint o'r gamlas â phosib.
Yr uchelgais ydy denu twristiaid i'r ardal a rhoi hwb gwerth hyd at £500,000 y flwyddyn i'r economi leol.
Dywedodd Gareth Richards, sydd wedi bod yn gwirfoddoli er mwyn adfer y gamlas: "Roedden ni'n gweld bod e'n bwysig bod pobl leol yn ymgymryd â'r cynorthwyo a glanhau'r gamlas.
"Mae'n rhan hanesyddol o Gwm Tawe - mae hi wedi bod gyda ni ers 250 o flynyddoedd.
"Mae'r gwaith wedi cychwyn ar lanhau gwaelod y gamlas - gwaith sydd heb gael ei wneud ers degau ar ddegau o flynyddoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2016